Mali Elwy yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd

Enillydd y GoronFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mali Elwy yn 24 oed a bellach yn byw yn Y Felinheli

  • Cyhoeddwyd

Mali Elwy o Dan-y-fron ger Llansannan, Sir Conwy sydd wedi ennill y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.

Catrin Morris o Lanberis yng Ngwynedd oedd yn ail yn y gystadleuaeth, ac Elain Roberts o Bentre'r Bryn yng Ngheredigion - enillydd y Gadair ddydd Iau - oedd yn drydydd.

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema 'Toddi/Ymdoddi'.

Siân Lloyd - enillydd y Goron union 50 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod yr Urdd 1975 - gyflwynodd y Goron i'r enillydd ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn.

Mae Mali yn 24 oed a bellach yn byw yn Y Felinheli yng Ngwynedd.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, graddiodd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor ac mae'n gweithio fel hwylusydd llawrydd yn ardal Gwynedd.

Dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu am y Goron.

Mae Mali yn diolch i Dr Marged Tudur ac Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor am bob cefnogaeth, ac i Ysgol Glan Clwyd am ei hysbrydoli ac am bob anogaeth wrth iddi ddechrau ysgrifennu flynyddoedd yn ôl.

'Llais newydd cyffrous'

Daeth 17 ymgais i law, gyda'r beirniad Menna Elfyn ac Emyr Lewis "wedi'u plesio yn arbennig gyda bob un o'r cynigion".

Dywedon nhw am y gwaith buddugol: "Hanes merch ifanc sydd â'i pherthynas wedi chwalu a geir yma, ac mae'n penderfynu dilyn cwrs ysgrifennu creadigol gyda'r nos.

"Down i wybod ei hanes yn raddol. Ceir hiwmor a dwyster yma – stori o fewn stori.

"Dyma awdur aeddfed sy'n gwybod sut i saernïo stori yn gelfyddyd.

"Dyma lais newydd cyffrous sy'n llawn haeddu ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Parc Margam a'r Fro."

Nicola PaltermanFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Goron a ddyluniwyd gan Nicola Palterman yn cynnwys diemwntau am y tro cyntaf

Cafodd y Goron, sy'n cynnwys diemwntau am y tro cyntaf erioed, ei chreu gan Nicola Palterman o Gastell-nedd.

Mae Nicola wedi gweithio yn y diwydiant gemwaith ers dros 30 mlynedd ac wedi sefydlu busnes yn ardal Castell-nedd yn ddiweddar.

"Roeddwn i eisiau i'r dyluniad fod yn seiliedig ar y thema dur a môr. Mae tonnau'r dirwedd arfordirol yn ardal Aberafan i'w gweld," meddai.

"Mae'r dyluniad hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur, sydd wedi bod yn asgwrn cefn i bobl dros y blynyddoedd."

Defnyddiodd Nicola hefyd ddeunydd o waith lleol Tata Steel i wneud y Goron.

"Mae'r defnydd yn gyfuniad trawiadol o'r arian 'ifanc', sgleiniog; tun wedi'i orchuddio â haen o ddur lleol o weithiau Tata; a melfed glas sy'n cynrychioli'r elfen forwrol ar y cap," meddai.

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd.