Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 1-0 Cymru

Denmarc v CymruFfynhonnell y llun, CBDC
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi disgyn o brif haen Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl colli yn erbyn Denmarc nos Wener.

1-0 oedd y sgôr yn Odense, yn dilyn gôl Pernille Harder i Ddenmarc ar ddechrau'r ail hanner.

Roedd angen chwe phwynt ar Gymru o'u dwy gêm olaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd i aros yn Haen A, ar ôl gêm ddi-sgôr rhwng Yr Eidal a Sweden yn gynharach.

Ond mae'r golled yn golygu y bydd tîm Rhian Wilkinson yn cystadlu yn Haen B yn eu hymgyrch nesaf.

Bydd tîm y merched yn chwarae nesaf yn erbyn Yr Eidal ddydd Mawrth, cyn troi eu golygon at Euro 2025 yn y Swistir fis Gorffennaf.

Olivia ClarkFfynhonnell y llun, CBDC

Fe wnaeth Cymru golli eu gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal ac yn erbyn Denmarc ym mis Ebrill.

Wedi dwy gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden, a'r golled heno, mae gan Gymru ddau bwynt o bum gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Roedd Cymru dan bwysau mawr am y 10 munud cyntaf, gyda Denmarc yn ennill sawl cic cornel a'n taro'r trawst o beniad y capten Pernille Harder.

Roedd rhaid i Rhian Wilkinson wneud newid cynnar oherwydd anaf i Mayzee Davies, gyda Alice Griffiths yn dod i'r maes yn ei lle.

Daeth Cymru'n agos iawn at sgorio'r gôl gyntaf, ond gyda dim technoleg llinell gôl ar gael, penderfynodd y dyfarnwr fod y bêl heb groesi'r llinell o ergyd Jess Fishlock.

Roedd y pwysau ar Gymru'n cynyddu tuag at ddiwedd yr hanner, ond fe sicrhaodd y gôl-geidwad Olivia Clark fod y gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl gyda chwpl o arbediadau cryf.

Dechreuodd Denmarc yr ail hanner ar y droed flaen ac ar ôl cwpl o funudau daeth unig gôl y gêm wedi i'r capten Harder redeg heibio sawl chwaraewr a rhwydo i'r gornel isaf.

Gyda'r sgôr yn 1-0 fe lwyddodd Cymru i dyfu i mewn i'r gêm ychydig, ond roedd yr ail hanner yn ddigon cyfforddus i'r gwrthwynebwyr mewn gwirionedd.