Cais i droi gwesty a bwyty hanesyddol yn dŷ preifat
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion gwesty a bwyty hanesyddol yng Ngwynedd wedi cyflwyno cais cynllunio i drawsnewid yr adeilad yn dŷ preifat.
Yn y cais i Gyngor Gwynedd, mae Chris a Gunna Chown yn dweud eu bod wedi methu'n llwyr â gwerthu Plas Bodegroes, rhwng Pwllheli ac Efailnewydd, ers rhoi'r eiddo ar y farchnad yn 2015 gyda phris ofynnol o £1.5m.
Maen nhw'n dymuno ymddeol ac yn dweud nad yw'r busnes yn gynaliadwy, er sawl gwobr dros y blynyddoedd - gan gynnwys seren Michelin - a chanmoliaeth gan ymwelwyr ar wefannau fel Tripadvisor.
Dywed y cwpwl, sydd eisoes wedi gorfod ail-afael yn y busnes ar ôl ceisio ymddeol, mai troi'r eiddo'n dŷ preifat yw'r ffordd orau o sicrhau dyfodol yr adeilad rhestredig Gradd II.
Bu'r gwesty ar gau am bum mis ar gyfer gwaith ailwampio sylweddol cyn ailagor yn 2016.
'Dim un ymholiad'
Dan y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno i'r cyngor, bydd dim newid i edrychiad allanol y plas ond fe fyddai'r newidiadau mewnol yn cynnwys lleihau nifer yr ystafelloedd o 10 i 8.
Dywed datganiad sy'n rhan o'r cais cynllunio fod yr arwerthwr Christie's wedi marchnata'r eiddo yn ddwys ond bod "dim un ymholiad" gan brynwyr posib.
Methu hefyd wnaeth ymdrechion arwerthwr arall sy'n arbenigo mewn gwerthu gwestai yn 2011.
Roedd y rhesymau am hynny'n cynnwys "natur tymhorol y busnes" ac awgrym bod pobl yn gyndyn o geisio olynu'r perchnogion presennol am fod eu henw da nhw yn ddigon i "godi ofn" arnyn nhw.
Yn sgil hynny, dywed y perchnogion nad ydyn nhw'n obeithiol y byddai ymgais arall ar werthu yn llwyddo.
Maen nhw'n dweud bod y busnes wedi gwneud colled o £56,000 dan reolaeth cwmni annibynnol am gyfnod yn 2016 pan wnaethon nhw geisio ymddeol yn wreiddiol, er bod y cwmni hwnnw â phrofiad helaeth o redeg gwestai 4 a 5 seren.
"Y rhesymau dros fethu, yn ôl y tîm rheoli, oedd lleoliad pellennig, trafferth penodi staff â chymwysterau uchel, a chystadleuaeth gynyddol gan drefnwyr teithiau ar-lein," meddai'r datganiad.
"Mae'n ymddangos mai ni yw'r unig rai all gynnal y busnes ond rydyn ni wedi gwneud hynny am 32 o flynyddoedd ac rydyn ni eisiau ymddeol."
Dywed y perchnogion eu bod wedi gostwng eu prisiau er mwyn ceisio aros yn gystadleuol, ond yn dal yn cael trafferth llenwi'u hystafelloedd i'r un graddau â phum mlynedd yn ôl, ac mae costau wedi codi'r "ddramatig" yn yr un cyfnod.
"Mae ein trethi busnes mewn dyblu, mae costau staff, ynni a chyflenwadau wedi codi rhwng 30% a 50%. Rydym ond yn gallu osgoi gwneud colled trwy beidio talu cyflogau i'u hunain."
Mae disgwyl y bydd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn ystyried y cais yn y misoedd nesaf.