Cwblhau gwelliannau ar yr A55 wythnos yn gynt na'r disgwyl

  • Cyhoeddwyd
A55 LlanddulasFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r gwaith atgyweirio gymryd pum wythnos

Bydd gwelliannau ar ran o'r A55 yn Sir Conwy yn cael eu cwblhau yn gynnar, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Un lôn yn unig sydd wedi ar agor i'r ddau gyfeiriad yn ardal Llanddulas ers 17 Medi er mwyn atgyweithio pont ger ochor orllewinol Cyffordd 23, gan achosi peth oedi i yrwyr.

Yn wreiddiol roedd disgwyl y byddai'r gwaith atgyweirio - oedd yn cael ei wneud yn ddi-dor ddydd a nos - yn cymryd pum wythnos.

Ond yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates fe fydd y gwaith wedi ei gwblau a'r ffordd yn ail-agor yn llawn erbyn 06:00 ddydd Gwener 12 Hydref - chwe niwrnod yn gynt na'r disgwyl.

Roedd y gwaith yn cynnwys sicrhau bod wyneb y bont yn gwrthsefyll dŵr, trwsio'r concrid a newid cymalau'r bont.

Mae bwriad i wneud rhagor o waith ar ran ddwyreiniol y ffordd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Skates bod swyddogion a chontractwyr "wedi gweithio'n ddi-flino i ddod â'r gwaith i ben cyn gynted â phosib" a'i fod yn diolch i deithwyr "am eu hamynedd" yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf.

"Roedd y gwaith hwn yn hollol hanfodol," meddai, "a gan bod angen gwneud y gwaith gwrthsefyll dŵr mewn tywydd gweddol dda, ei wneud wedi cyfnod prysur yr haf, ond cyn y gwyliau hanner tymor, roedd yr amser iawn i weithredu."