Croesawu buddsoddiad rhaglenni Cymraeg i blant

  • Cyhoeddwyd
TACFfynhonnell y llun, TAC

Mae cynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru wedi croesawu buddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn rhaglenni Cymraeg i blant.

Bydd cyfran o fuddsoddiad £57m y llywodraeth yn mynd tuag at ddarlledu yng Nghymru, gyda'r gobaith o sbarduno'r sector annibynnol i greu cynnwys gwreiddiol, unigryw a deinamig.

Y gred yw y bydd 5% o'r arian sydd ar gael yn mynd at raglenni Cymraeg ac ieithoedd brodorol eraill, tra bod £3m yn cael ei roi i hybu radio masnachol.

Yn ôl Gareth Williams, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, bydd yr arian yn cynnig "cyfleoedd hollbwysig" i'r sector, gan ychwanegu ei fod yn edrych 'mlaen i greu "cynnwys newydd, cyffrous" i blant a phobl ifanc.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: "Bydd y cyhoeddiad yma yn rhoi hwb sylweddol i gynhyrchwyr rhaglenni Cymraeg, gan helpu sicrhau cenhedlaeth newydd o wylwyr rhaglenni teledu yn yr iaith Gymraeg."