Adran Dau: Crawley 4-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Ollie Palmer yn sgorio trydedd gôl CrawleyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Palmer yn sgorio trydedd gôl Crawley

Colli'n drwm oedd hanes Casnewydd wrth wynebu Crawley oddi cartref.

Fe gafodd yr Alltudion y dechrau gwaethaf posib wedi i Joe Maguire rwydo o groesiad Lewis Young ar ôl munud yn unig o chwarae i roi Crawley ar y blaen.

Llwyddodd Jamille Matt i unioni'r sgôr wedi 59 munud.

Ond o fewn pum munud roedd Crawley wedi sicrhau cic o'r smotyn yn dilyn trosedd yn erbyn Ollie Palmer ac fe sgoriodd Filipe Morais i'w gwneud hi'n 2-1.

Palmer wnaeth ymestyn y fantais gyda pheniad i'r rhwyd wedi 71 munud, cyn i gôl unigol Ashley Nathaniel-George sicrhau'r fuddugoliaeth.

Funudau'n ddiweddarach cafodd Fraser Franks ei hel o'r maes ar ôl cael cerdyn coch am drosedd wael yn erbyn Nathaniel-George.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn disgyn i'r pedwerydd safle yn y tabl.