Cymru â'r cyfrannau uchaf o fwytai bwyd cyflym yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Kebab

Mae gan Gymru rhai o'r cyfrannau uchaf o fwytai bwyd cyflym drwy'r DU.

Blaenau Gwent sydd a'r gyfran uchaf o fwytai bwyd cyflym yn y DU - gyda 55 o 75 (73%) o fwytai yn rhai bwyd cyflym.

Caerffili sy'n ail ar y rhestr ar 66%, a Rhondda Cynon Taf yn bedwerydd ar 63%.

Dros Gymru mae cynnydd o 48% mewn bwytai bwyd cyflym wedi bod rhwng 2010 a 2018.

Bellach mae 2,060 o fwytai bwyd cyflym yng Nghymru, sy'n gynnydd o 655 dros wyth mlynedd. Dros y DU y cynnydd yw 34%.

81 bwyty i bob 100,000

Fe wnaeth pob awdurdod lleol yng Nghymru weld cynnydd yn nifer y bwytai bwyd cyflym i bob 100,000 o bobl.

Yn 2010 roedd 30 bwyty i bob 100,000, ond mae hynny wedi cynyddu i 65 yn 2018 - sy'n uwch na'r cyfartaledd i'r DU o 61.

Sir Conwy sydd a'r nifer uchaf i bob 100,000 o bobl, gydag 81.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod nifer y bwytai bwyd cyflym yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi dyblu, o 50 i 105, rhwng 2010 a 2018.

Roedd ffigyrau swyddogol yn dangos bod 12.4% o blant pedair a phump oed yn ordew yn 2016/17, cynnydd o'r 11.7% yn 2015/16.

Yn ôl Dr Julie Bishop o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n debyg taw gordewdra yw'r broblem iechyd mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas.

"Ond yr hyn sy'n llai clir yw pa mor bwysig yn hyn oll yw nifer y siopau bwyd cyflym, mae yna ymchwil sy'n dangos ei fod hyn yn ffactor, ac yna ymchwil sy'n dangos i'r gwrthwyneb.

"Ond beth mae data yn ei ddangos yw bod canran uchel o lefydd bwyd cyflym mewn un lleoliad yn gonsyrn."

'Cost i iechyd pobl'

"Mae'n broblem glasurol, pan mae yna fudd economaidd i ardal, ardal o bosib lle nad oes llawer o lewyrch economaidd arall, ond mae yna hefyd gost posib o ran iechyd pobl," meddai Dr Bishop.

"Mae angen ei gwneud yn haws i awdurdodau lleol wrthod safleoedd ychwanegol mewn ardal lle mae yna eisoes nifer fawr, neu lle mae lefelau gordewdra yn achosi pryder.

"Mae hefyd angen gweithio gyda siopau bwyd cyflym, oherwydd does dim rheswm pam fod bwyd o'r fath yn gorfod bod yn ddrwg i'r iechyd. Mae'n wir nawr, ond mae yna ffordd y gallwn ehangu'r dewis o opsiynau mwy rhad [ar y fwydlen]."

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod hefyd yn cynnig "cyngor iechyd arbenigol" ac yn "hyrwyddo dewisiadau iach" drwy gynlluniau fel Pob Plentyn Cymru, dolen allanol.