Ailagor becws wedi galw mawr gan gwsmeriaid am fara Cwm
- Cyhoeddwyd
Mae becws teuluol yng Ngwynedd a gauodd ei ddrysau wedi 52 mlynedd o wasanaeth fis diwethaf wedi ailagor yn rhannol.
Roedd yna negeseuon lu ddechrau mis Hydref yn dymuno'r gorau i Selwyn Morris a'i staff wedi iddo benderfynu ymddeol a chau becws y Brodyr Morris yng Nghwm-y-Glo, a siopau'r cwmni yng Nghaernarfon a Llanberis.
Ond wedi i "gymaint" o gwsmeriaid ddweud eu bod "yn colli y bara" mae wedi penderfynu ailagor dridiau yr wythnos, gan bobi bara, rholiau a phastai yn unig.
Dywedodd Mr Morris, 74, wrth Cymru Fyw ei fod yntau hefyd wedi "colli'r cwsmeriaid" a "'di methu bod yn llonydd".
Yn ôl ei ferch, Julie Roberts, roedd "y bythefnos gynta' fatha holidês" i'w thad ond ei fod "ddim yn gw'bod be' i neud efo'i hun" erbyn y drydedd wythnos.
"Di o 'rioed wedi bod allan o waith, dydy o ddim yn ddyn i ista'n tŷ trw' dydd yn sbio ar bedwar wal," meddai.
Yn dilyn cyfarfod teuluol fe benderfynwyd i ailagor y becws ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener, ond i beidio dosbarthu cynnyrch fel roedden nhw'n arfer gwneud.
Byddan nhw ddim yn ailddechrau cyflenwi siopau a busnesau eraill yng Ngwynedd a Môn nac yn ailagor eu siopau yng Nghaernarfon a Llanberis. Does dim penderfyniad eto ynghylch dyfodol yr adeiladau hynny.
Un o ferched eraill Mr Morris, Wendy oedd yn arfer dosbarthu nwyddau'r becws a'u gwerthu i gartrefi o fan oedd yn teithio o amgylch pentrefi Dyffryn Peris, ond mae hi bellach yn cael ei hyfforddi i bobi'r bara ei hun.
Mae'r drefn newydd yn golygu na fydd yn rhaid i Mr Morris weithio oriau mor hir, gan ddechrau am 5:30 y bore yn lle 02:00.
Dywedodd Julie Roberts bod ei thad "fel dyn newydd" ar ddiwrnod cyntaf y drefn newydd.
Ychwanegodd eu bod wedi gwerthu popeth o fewn y ddwy awr gyntaf ddydd Gwener a bod cwsmeriaid wedi dweud eu bod "yn falch" bod hi'n bosib unwaith eto i brynu 'bara Cwm', fel mae'n cael ei alw.
Roedd yn "anodd credu", meddai, gymaint o negeseuon o gefnogaeth a gafodd y teulu a'u staff wrth gau'r becws ddechrau mis Hydref.
Sefydlwyd Becws Cae Gors yn y pentref rhwng Llanrug a Llanberis yn 1966, gan werthu bara a theisennau yn uniongyrchol i'r cyhoedd.
Selwyn Morris fu'n gyfrifol am y busnes yn y blynyddoedd diwethaf wedi i'w frodyr, Dafydd ac Alwyn, ymddeol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2018