Ofnau am Brexit yn llenwi siambrau bwyd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni stordai oer yng Nghymru wedi gwrthod paledi o fwyd gan bod eu siambrau mor llawn.
Yn ôl Wild Water mae'r diwydiant wedi dechrau pentyrru a storio cynnyrch yn sgil ofnau am ddyfodol cyflenwadau wedi Brexit.
Mae'r cwmni sy'n berchen ar sawl stordy oer yn y de ddwyrain yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw i storio a rhewi bwyd gan archfarchnadoedd a chynhyrchwyr.
Y rheswm am hyn yn ôl Mike Rattenbury, ymgynghorydd i grwp Wild Water yw'r ffaith bod Prydain ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd.
"Yn ni'n sicr iawn taw dylanwad Brexit yw e. Mae pobl yn becso beth fydd y ffiniau'n edrych fel, mae ansicrwydd sut bydd pethau'n gallu symud dros y ffiniau ar ôl Brexit a does dim un amheuaeth gyda ni fod hwnna wedi cael effaith ar bobl yn storio bwyd yn barod am Brexit blwyddyn nesa," meddai.
"Ma' lot o gig gyda ni yma, mae pethe fel bara a fflŵr a ffrwythau - pob math o fwyd."
Prysurdeb Nadolig
Mae'n storio cynnyrch i gwmnïau bach Cymreig a'r archfarchnadoedd mawr.
Rhai o'r pethau sy'n cael eu storio yno nawr:
1.75m coron twrci (turkey crowns)
7,000 paled o gacennau
1,000 paled o gaws Mozzarella
4,000 paled o bwdinau ar gyfer archfarchnadoedd
2,000 paled o sudd ffrwythau
Oherwydd y pryderon am Brexit a phrysurdeb Nadolig, mae'r cwmni wedi gwrthod cwsmeriaid yn ystod yr wythnosau diwetha'.
Mae hefyd wedi gorfod llogi gofod ychwanegol mewn stordai yn Lloegr ac mae wrthi'n adeiladu safle newydd ger Caerffili fydd yn cyflogi 120 o bobl yn y pendraw.
Mae'r diwydiant bwyd yn allweddol yn ôl Llŷr Roberts, Uwch ddarlithydd busnes gyda'r Coleg Cymraeg.
"Mae'r sector bwyd yn hynod o bwysig a hynod o werthfawr i'r economi Gymreig bellach," meddai.
"Mae gyda chi 250,000 o bobl yn gweithio yn y sector yma, mae'n werth bron i £20biliwn y flwyddyn i'r economi Gymreig - yn fusnesau bach, yn fusnesau ffermio, yn fusnesau arlwyo, yn siopau manwerthu...
"Felly ar draws yr economi, mae'r sector bwyd mor werthfawr, a dyna pam wedyn petasai ni'n cael Brexit caled a'r problemau yma gyda storio a chludo, y galle fe gael effaith anferthol ar ein heconomi, ar swyddi pobol a'n gallu ni i fynd i'r siop ac i lefydd bwyd a phrynu'r bwyd 'da ni eisiau ei brynu."
'Mewnforio'
Gyda dyfalu cynyddol am natur cytundeb terfynol Brexit - gallai'r newid arwain at batrymau siopa gwahanol yn ôl Elin Wyn Williams, perchennog siop fwyd Bant a La Cart yng Nghaerdydd.
Mae Elin yn prynu ei chynnyrch yn lleol ac nid yw'n prynu unrhyw beth sydd wedi ei rhewi. Mae'n cael ei blawd o felinau Cymru.
Dywedodd: "Tueddiadau lot o bobl yw gwneud siop enfawr unwaith yr wythnos, mae hwnna'n cynnwys lot o fwyd sydd wedi rhewi, pethau hir oes, dwi ddim yn un o'r bobl sy'n tueddu i wneud hynny ond da ni wedi gweld yn ddiweddar y syniadaeth yma o brynu'n lleol.
"Os ewch chi i gyflenwr bach, mae ganddyn nhw bethau sydd ar gael ar hyn o bryd ond os ewch chi i archfarchnad - wrth gwrs bydd pethau ar gael achos bo nhw'n gallu ei fewnforio fe.
"Dwi'n gweld tueddiad nawr - bod pobl yn defnyddio'u bwtsiwr lleol, yn defnyddio'r boi llysiau lleol.
"Gyda Brexit - falle bydd yn newid ein ffordd ni o siopa a bod ni'n mynd nôl i'r hen dueddiad bod ni yn bwyta'n dymhorol, bod ni yn bwyta'n lleol a dwi'n credu bydde hwnna o fudd i bawb."
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal gweithdai i baratoi busnesau bwyd a diod ar gyfer Brexit.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2018
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018