Brexit: Pryder cynhyrchwyr bwyd sydd â statws arbennig

  • Cyhoeddwyd
bara lawr
Disgrifiad o’r llun,

Bara Lawr Cymreig yw un o'r cynhyrchion diweddaraf i dderbyn statws gwarchodedig Ewrop

Mae diffyg cynnydd yn sgyrsiau Brexit yn "codi pryder mawr" ymhlith cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig sydd wedi derbyn statws arbennig gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae dyfodol system Enwau Bwydydd Gwarchodedig (PFN) yr Undeb ar ôl Brexit yn un o'r materion sydd heb ei ddatrys yn y trafodaethau.

Mae gweinidogion Llywodraeth San Steffan am sefydlu cynllun Prydeinig a fydd yn darparu "amddiffyniad parhaus" i gynnyrch domestig yn y DU.

Mae statws Enw Bwyd Gwarchodedig, sy'n atal cynhyrchion rhag cael eu copïo gan gwmnïau y tu allan i'r ardal lle maent wedi cael eu gwneud yn draddodiadol, wedi ei roi i 15 o frandiau bwyd a diod yng Nghymru.

'Y marc yn denu'r cwsmer'

Cafodd Caws Traddodiadol Caerffili statws arbennig gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Ionawr 2018, gan olygu fod ganddo yr un statws â Halen Môn, Champagne a Parma Ham.

Ar ôl trafodaethau am oddeutu tair blynedd, rhoddwyd hawl i Caws Cenarth, cwmni teuluol yng Ngheredigion, i labelu rywfaint o'u cynnyrch fel Caws Traddodiadol Caerffili Cymreig.

Roedd yn "broses eithaf hir" gyda "llawer o waith papur", yn ôl pennaeth y cwmni, Carwyn Adams.

Dywedodd Mr Adams: "Cawsom gwsmer Americanaidd fis yn ôl a phan ddywedom wrtho y stori am gaws Caerffili roedd wedi cyffroi a phan soniom wedyn bod ganddo statws yr Undeb Ewropeaidd fe wnaeth e gynhesu at y cynnyrch yn syth gan feddwl y gallai werthu'n rhwydd.

"Mae'n llawer haws i ni argyhoeddi'r cwsmer i roi cynnig ar y cynnyrch os yw'n cario'r marc," ychwanegodd.

Cynnyrch Cymreig sydd wedi eu gwarchod gan yr Undeb Ewropeaidd:

1) Cig Oen Cymru

2) Cig Eidion Cymru

3) Tatws Cynnar Sir Benfro

4) Halen Môn

5) Cig Moch Caerfyrddin

6) Cregyn Gleision Conwy

7) Gwin Cymreig

8) Gwin Rhanbarthol Cymru

9) Porc Cymreig pedigri wedi'i fagu'n draddodiadol

10) Eog Gorllewin Cymru wedi'i ddal o gwrwgl

11) Sewin Gorllewin Cymru wedi'i ddal o gwrwgl

12) Bara Lawr Cymru

13) Perai Cymreig Traddodiadol

14) Seidr Cymreig Traddodiadol

15) Caws Traddodiadol Caerffili Cymreig

Os yw'r DU i adael yr UE ym Mawrth 2019 mae angen datrys nifer o faterion dros y misoedd nesaf.

Mae'r rhan fwyaf o'r sylw wedi bod ar y methiant i ddod i gytundeb ar ffin Iwerddon, ond cyn y cyfarfod anffurfiol o arweinwyr yr Undeb yn ninas Salzburg yn Awstria yn gynharach yn y mis, fe ddywedodd prif drafodwr Brexit yr Undeb, Michel Barnier, unwaith eto bod angen cytundeb ynghylch y cynllun PFN., dolen allanol

Dywedodd Carwyn Adams y byddai peidio bod yn rhan o gynllun gwarchod bwyd yr UE yn "wastraff arian, amser ac ymdrech".

Ychwanegodd: "Mae'n dorcalonnus i fod yn onest ond beth allwn ni wneud?"

Disgrifiad,

Mae Carwyn Adams o gwmni Caws Cenarth yn dweud bod cael statws Ewropeaidd yn help mawr i farchnata cynnyrch

'Pryder mawr'

Cig eidion Cymru oedd y cynnyrch bwyd cyntaf yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth gan y cynllun yn ôl yn 2002, gyda chig oen Cymru yn dilyn yn 2003.

Dywedodd yr asiantaeth hyrwyddo cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC), fod trafodaethau yn ystod sgyrsiau Brexit ynghylch y cynllun yn "codi pryder mawr," oherwydd ei fod wedi bod yn "rhan bwysig a rhan annatod o'n marchnata dramor yn Ewrop ac mewn mannau eraill yn y byd".

O holl allforion cig oen Cymreig, mae 92% yn cael ei werthu i wledydd yr Undeb Ewropeaidd ac y mae yna "barch mawr i'r cynlluniau gwarchod enw"

Mae cynllun Chequers Llywodraeth y DU ar gyfer perthynas newydd gyda'r Undeb yn dilyn Brexit yn dweud y "bydd y DU yn sefydlu ei chynllun ei hun ar ôl gadael".

Disgrifiad,

Gan fod cig eidion a chig oen wedi'u gwarchod gan yr UE, mae Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru yn poeni am y dyfodol

Dywedodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr HCC: "Yr hyn sy'n rhaid bod yn ofalus yw y gallai unrhyw gynllun newydd anelu at gael yr un egwyddorion a'r un gydnabyddiaeth â'r cynllun bresennol ond mae'n cymryd amser i sicrhau ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth defnyddwyr yn y farchnad yn Ewrop ac nid yw hynny'n digwydd dros nos."

Os nad yw'r DU a'r UE yn dod i gytundeb ar Brexit mae gweinidogion yn San Steffan yn dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno logo newydd Prydeinig ar gyfer cynhyrchion sydd wedi'u gwarchod.

Wrth ymateb i'r posibilrwydd o gael baner y DU ar y cynnyrch dywedodd Gwyn Howells: "Byddai'n ddryslyd a gallai fod yn negyddol oherwydd ein bod yn gwybod o ran ymchwil diweddar nad yw cynnig Prydain yr un mor boblogaidd ar y cyfandir â chynnig Cymru mewn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal, er enghraifft.

'Adnabyddus yn Ewrop'

Mae gwin a gynhyrchwyd gan Winllan White Castle ger y Fenni wedi derbyn statws PFN Gwin Rhanbarthol Cymru ers 2011.

Dywedodd Robb Merchant, perchennog y winllan yn Sir Fynwy: "Yn y DU mae'n weddol anhysbys mewn gwirionedd, nid yw'n cael ei hyrwyddo'n eang, ond o ran Ewrop, pan fyddwn yn cael ymwelwyr o dramor, maent yn sicr yn deall y marc ansawdd a rhanbarthol."

Gan gyfeirio at y syniad o greu cynllun newydd ar gyfer y DU, ychwanegodd: "Yn bersonol, rwy'n credu y dylent fabwysiadu'r cynllun sy'n bodoli eisoes, yr un safonau, ac yna os ydynt am wella'r ansawdd, wel gorau'i gyd.

"Ond nid y ffordd ymlaen yw dileu popeth sydd wedi'i wneud hyd yn hyn."

Bydd Llywodraeth San Steffan yn ymgynghori ar gynllun newydd y DU yn ystod y misoedd nesaf.