Sialensau YouTube yn arwain at gynnydd mewn llosgiadau

  • Cyhoeddwyd
llun stocFfynhonnell y llun, MangTeng/Getty Images

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n dioddef llosgiadau wrth gopïo a chreu fideos ar gyfer gwefannau cymdeithasol.

Yn ôl staff arbenigol Ysbyty Treforys, ger Abertawe, mae nifer o bobl ifanc wedi cael eu hanafu wrth gymryd rhan mewn sialensiau amrywiol yn y gobaith o roi hwb i'w statws ar-lein.

Dywedodd llawfeddyg o'r ysbyty, Jeremy Yarrow: "Dwi'n deall fod pwysau ar bobl ifanc i gael eu derbyn, neu i hybu eu delwedd ar-lein... ond mae'r canlyniadau yn gallu bod yn wahanol iawn.

"Dwi wedi gweld rhai sydd angen triniaeth cynnal bywyd neu yn gorfod byw gyda chreithiau parhaol."

'Gobaith o ddod yn enwog'

Nid yw'r ysbyty am ddatgelu cynnwys y 'sialensau' hyn, ond maen nhw'n nodi eu bod nhw'n defnyddio sylweddau fflamadwy amrywiol.

Dywedodd Ana Biney, nyrs yn adran llosgiadau Ysbyty Treforys: "Maen nhw'n eu copïo o wefannau cymdeithasol a YouTube, ac yn eu galw nhw'n 'sialensau YouTube'.

"Maen nhw'n ffilmio ei gilydd ac yna'n uwchlwytho rhain i'r we yn y gobaith eu bod nhw'n dod yn enwog.

"Mae cynnydd pendant wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n dioddef anafiadau eithaf difrifol o ganlyniad i hyn."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Yarrow mae rhai achosion lle mae bywydau cleifion wedi cael eu peryglu

Mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu trin fel cleifion allanol, yn ôl Mr Yarrow, ond mae unigolion sydd angen llawdriniaeth yn cael eu derbyn i'r ysbyty.

Ychwanegodd: "Mewn rhai achosion difrifol a rhai sy'n peryglu bywyd, maen nhw'n cael eu derbyn i'r ysbyty am gyfnodau hir ar gyfer llawdriniaeth, all arwain at broblemau meddyliol a chorfforol yn y tymor hir."

Cyngor staff y ganolfan i drin llosgiadau yw rhoi dŵr oer yr ardal sydd wedi ei losgi am 20 munud er mwyn lleihau'r gwres, a galw am gymorth gan ambiwlans neu feddyg teulu yn dibynnu ar y sefyllfa.

Dywedodd Ms Biney: "Mae cymorth cyntaf yn hanfodol. Os ydych chi'n ei wneud yn iawn yna mae modd cael effaith enfawr ar y llosg.

"Ond wrth gwrs, y peth gorau i'w wneud yw peidio â chyflawni'r fath weithredoedd yn y lle cyntaf.

"Efallai eu bod nhw'n edrych yn gyffrous ar y we, ond mae'r gwirionedd yn wahanol iawn."