Damon Albarn yn cydweithio gyda Chôr y Penrhyn

  • Cyhoeddwyd
damonFfynhonnell y llun, Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Damon Albarn noson i'w chofio yn nhafarn y George ym Methesda gydag aelodau Côr y Penrhyn

Os ydych chi wedi clywed caneuon oddi ar albwm newydd prosiect diweddaraf Damon Albarn, efallai y byddwch wedi clywed côr meibion o Gymru yn canu yn Gymraeg gyda chyn leisydd y band Blur.

Mae'n debyg fod y canwr, oedd yn un o leisiau mwyaf adnabyddus cyfnod Britpop y 90au, wedi gwneud dipyn o ffrindiau efo aelodau Côr y Penrhyn o Ddyffryn Ogwen a "gwirioni" efo'r ardal ar ôl bod yn recordio yng Nghastell Penrhyn ger Bangor fis Mai.

Mae ei fand newydd, The Good, The Bad & The Queen, wedi bod yn cydweithio gyda Chôr y Penrhyn ar eu halbwm Merrie Land.

Mae'r côr i'w glywed yn canu "Dwi wrth dy gefn di" yn Gymraeg ar ddiwedd y gân Lady Boston , dolen allanol

Disgrifiad,

Clip o fideo Lady Boston gan The Good the Bad and The Queen a Chôr y Penrhyn

"Dwi'n meddwl dechreuodd y cyfan gan fod Damon yn ffrindiau gyda Gruff Rhys o'r Super Furries," esbonia Alun Davies sy'n aelod o Gôr y Penrhyn.

"Oedd Damon 'di cael y syniad 'ma o gael côr meibion ar ei CD newydd, ac 'nath o ofyn i Gruff lle fysa fo'n cael gafael ar gôr.

"Wrth gwrs ma' Gruff o Fethesda dydi, felly wnaeth o ddeud am Gôr y Penrhyn a dyna sut ddechreuodd pethau."

Ffynhonnell y llun, Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Côr y Penrhyn yn recordio gyda Damon Albarn a Tony Visconti yn neuadd fawr Castell Penrhyn

Fe yrrodd Damon bedair cân at y côr o flaen llaw, felly roedd cyfle i ymarfer cyn recordio.

"Rhyw ddau ddiwrnod oedden ni yng Nghastell Penrhyn," meddai Alun. "Fanno oedden ni'n ymarfer ac yn recordio."

"Champion o hogyn!"

Felly sut un oedd Damon Albarn i gydweithio â fo?

"Champion o hogyn!" meddai Alun. "Roedden nhw'n aros yn Seiont Manor yn Llanrug, ac ar ôl y nos Wener pan oedden ni'n ymarfer wnaethon ni ofyn iddo fo os oedd o isio dod am beint ac felly ddaeth o efo ni i'r George ym Methesda.

"Roedd 'na dri neu bedwar ohonyn nhw gan gynnwys y chwaraewr bas, Paul Simonon.

"Oeddan ni yn y George yn tynnu lluniau ac yn sgwrsio, mae o'n hogyn neis ofnadwy. O'dd o jest yn cymryd yr awyrgylch i mewn."

Ffynhonnell y llun, Fred Duval
Disgrifiad o’r llun,

Damon Albarn a'i gyd-aelodau o Blur yn 1997

Ffynhonnell y llun, Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Alun Davies a Tom Williams gyda Damon Albarn yn y George, Bethesda

Faint oedd Damon yn ei wybod am Gymru, a'r gogledd yn enwedig cyn yr ymweliad?

"Doedd o'n gwybod dim byd pan ddoth o yma. Pan 'natho ni sôn am Gastell Penrhyn fel lleoliad oedd o'n meddwl mai castell fel Castell Caernarfon neu Gastell Conwy oedden ni'n feddwl. Oedd o'm di sylweddoli mai tŷ oedd o.

"O be' 'dwi 'di ddarllen yn y papurau ac ati mae o wedi gwirioni gyda Chymru ac yn dweud bod yr ymweliad wedi agor ei lygaid."

Tony Visconti

Cynhyrchydd yr albwm ydi Tony Visconti, sydd wedi cynhyrchu i artistiaid adnabyddus fel David Bowie, Thin Lizzy a T.Rex. Roedd Visconti yno yn cydweithio gyda Chôr y Penrhyn a Damon Albarn yng Nghastell Penrhyn.

"Yn ôl bob sôn roedd o'n caru gyda Chymraes ar un adeg. Ar ddiwedd y recordio fe wnaeth o droi atom ni a dweud 'diolch yn fawr iawn', a'i bod hi wedi bod yn brofiad anhygoel iddo - yn y Gymraeg a wnaeth hyn hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dangosodd y cynhyrchydd byd-enwog, Tony Visconti ei fod yn gwybod ambell i air Cymraeg

Yn ôl Alun Davies, bydd Côr y Penrhyn yn perfformio gyda The Good, The Bad & The Queen yn gig gyntaf eu taith i hyrwyddo'r albwm ar 1 Rhagfyr 2018 yn Blackpool.

Efallai o ddiddordeb: