Dadorchuddio gwaith celf i goffáu Streic y Penrhyn

  • Cyhoeddwyd
Cerflun

Mae gwaith celf i goffáu Streic y Penrhyn wedi cael ei ddadorchuddio mewn digwyddiad ddydd Sadwrn.

Mae'r cerflun, sy'n rhan o arddangosfa Llechi a Llafur, wedi ei gynllunio gan gwmni Walker a Bromwich o Lundain, a'r nod yw cyfleu y chwerwder a'r dioddefaint a achosodd yr Arglwydd Penrhyn i chwarelwyr Bethesda a'u teuluoedd yn ystod streic 1900-1903.

Dyw nifer o bobl leol Bethesda a'r ardal, medd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ddim wedi bod eisiau mynd i'r castell oherwydd chwerwder yr hanes.

Cafodd y cerflun 15 troedfedd o daldra ei gludo mewn gorymdaith oedd yn ail-droedio'r llwybr a gymerodd y streicwyr i ddod â'u gorchmynion i'r Arglwydd Penrhyn yn 1900.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith celf wedi ei selio ar ddarlun o Chwarel y Penrhyn gan Henry Hawkins

Yn rhan o'r orymdaith hefyd roedd baneri sydd wedi cael eu gwneud mewn gweithdai yn y gymuned.

Mae'r cerflun yn benllanw cywaith tair blynedd Cyngor Celfyddydau Cymru ond y gobaith yw y bydd ei effaith yn para drwy roi canolbwynt i'r gymuned gael adrodd a dysgu eraill am flynyddoedd anodd y streic.

'Amser symud ymlaen'

Un sydd wedi bod yn gyndyn i ymweld â'r castell tan yn ddiweddar yw'r actor John Ogwen, gan fod ei deulu'n arfer gweithio yn y chwarel.

Ond mae bellach wedi newid ei feddwl: "Rwy'n falch bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn trafod yn agored rhan y castell mewn hanes lleol a bod cyfle gan ymwelwyr i glywed hanes Streic y Penrhyn.

"Mae'n amser symud ymlaen. Mae'n hen hanes ond nid hanes y dylid ei anghofio."

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC
Disgrifiad o’r llun,

Pwyllgor y chwarelwyr ger bron Arglwydd y Castell adeg y streic

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Castell y Penrhyn, Nerys Jones: "Mae Castell y Penrhyn yn fwy na phensaernïaeth wastraffus a chelfyddyd gain - o dan yr wyneb mae hanes tywyll am gaethwasiaeth ac anghydfod diwydiannol chwerw a newidiodd berthynas y Castell gyda'r gymuned am byth.

"Mae'n amser i ni bellach drafod yr hanesion yn agored yn y castell a thrafod arwyddocâd yr hanes gyda'r gymuned leol ac ymwelwyr.

"Yn ystod y blynyddoedd nesaf mi fyddwn ni yn trafod ffyrdd newydd a chreadigol i wneud cyfiawnder â stori'r Penrhyn - mae arddangosfa Llechi a Llafur yn un o'r syniadau hynny."

Yn ogystal, mae fideo sy'n cynnwys lleisiau lleol wedi'i chynhyrchu a bydd barddoniaeth a chanu hefyd yn ffyrdd eraill i gyflwyno'r hanes.

Mae arddangosfa Llechi a Llafur i'w gweld yn Neuadd Fawr, Castell y Penrhyn o 1 Gorffennaf tan 5 Tachwedd 2017.