Caniatáu ceisiadau fisa i actorion Bollywood

  • Cyhoeddwyd
CameraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffilm 'Jungle Cry' yn adrodd stori tîm rygbi ieuenctid o India wnaeth ennill cystadleuaeth yn y DU

Mae bechgyn o India gafodd drafferthion wrth geisio am fisa er mwyn gallu ymddangos mewn ffilm Bollywood sy'n ffilmio yng Nghymru bellach wedi cael caniatâd i ddod i'r DU.

Bydd modd nawr i barhau â'r bwriad gwreiddiol o ddechrau ffilmio 'Jungle Cry' yn ne-orllewin Cymru ddiwedd mis Tachwedd.

Mae'r ffilm yn adrodd stori tîm rygbi ieuenctid o India wnaeth ennill cystadleuaeth yn y DU yn 2007.

Daeth i'r amlwg ddydd Gwener fod 14 o chwaraewyr wedi cael eu rhwystro rhag teithio gan Uwch Gomisiwn y DU yn Kolkata.

Ond mae'r Swyddfa Gartref bellach wedi caniatáu fisa i'r actorion ifanc, ac mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd Cymru erbyn diwedd yr wythnos.

'Canlyniadau difrifol'

Fe wnaeth y prif weinidog Carwyn Jones ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, ddydd Gwener yn gofyn iddo ganiatáu'r bechgyn i deithio i'r DU.

Yn ei lythyr, dywedodd Mr Jones y byddai gwrthod y cais am fisa "â chanlyniadau difrifol o ran gorffen y ffilm, y budd economaidd i fusnesau Cymru ac yn niweidio ein henw da fel gwlad sy'n croesawu'r diwydiannau creadigol o weddill y byd".

Mae'r broses ffilmio eisoes wedi dechrau yn India a'r bwriad yw parhau yn Llanelli ddiwedd y mis.

Mae disgwyl i'r ffilm, sydd â chyllideb o filiynau o bunnau, ffilmio yng Nghymru tan y Nadolig.