Myfyrwyr yn ceisio newid euogfarn dyn o Bowys

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio am chwe blynedd i geisio newid euogfarn Gareth Jones

Mae myfyrwyr sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn ceisio newid euogfarn o ymosodiad rhyw a roddwyd i ddyn o Bowys sydd ag anableddau dysgu.

Ers chwe blynedd mae'r myfyrwyr wedi bod yn ceisio profi fod Gareth Jones o Drecastell yn ddieuog a'i fod wedi'i gael yn euog ar gam am ymosodiad rhyw ar ddynes oedrannus pan oedd yn gweithio mewn cartref nyrsio.

Mae'r myfyrwyr yn rhan o Brosiect Dieuog Caerdydd (Cardiff Innocence Project).

Mae'r prosiect yn derbyn llu o geisiadau bob blwyddyn gan garcharorion sy'n mynnu eu bod yn ddieuog ac sy'n awyddus i gael eu rhyddhau.

Dyma'r unig dîm o'i fath mewn prifysgol sydd wedi llwyddo i newid euogfarn.

Cafodd Dwaine George ei garcharu yn 2002 wedi i Daniel Dale, bachgen yn ei arddegau, gael ei saethu'n farw ym Manceinion.

Roedd wastad wedi gwadu bod ag unrhyw ran yn y digwyddiad ac wedi i'r myfyrwyr ddadansoddi'r achos fe'i cafwyd yn ddieuog o lofruddiaeth yn 2014 wedi i farnwr ddweud nad oedd sail ddigon cadarn i'w euogfarn.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Jones pan ymddangosodd yn Llys y Goron Casnewydd yn 2008

Bellach mae'r prosiect yn gobeithio y byddant yn cael canlyniad tebyg ar gyfer achos Jones.

Roedd yn 32 oed pan gafwyd yn euog o gyflawni ymosodiad rhyw ar glaf oedrannus oedd yn dioddef o ddementia tra'r oedd yn gweithio mewn cartref gofal ym Mhowys.

Roedd Jones, sydd ag anghenion dysgu arbennig, wedi gwadu'r cyhuddiad ond cafodd ei garcharu am naw mlynedd yn 2008 am ymosodiad rhyw "milain" yng nghartref nyrsio The Mountains yn Libanus.

Yn ddiweddarach cafodd y ddedfryd ei gostwng ddwy flynedd wedi i farnwr ddweud bod y ddedfryd gyntaf yn eithafol.

Mae Jones bellach yn ddyn rhydd wedi iddo dreulio tair blynedd a hanner yn y carchar, ond mae'n parhau ar gofrestr troseddwyr rhyw ac yn methu byw adref gan fod plant yn y tŷ.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paula Morgan, sy'n byw gyda Gareth Jones, ei fod yn ddyn gofalgar

Dywedodd Paula Morgan sy'n gofalu am Gareth Jones: "Roedd Gareth yn ddyn hapus, wastad â gwên ac yn gymdeithasol ond wedi iddo ddod allan o'r carchar mae'n berson gwahanol.

"Ers iddo ddod allan dyw e ddim wedi cael bywyd braf... pobl yn dymuno ymosod arno a ddim am iddo fod o gwmpas."

Mae tîm Prosiect Diniweidrwydd Caerdydd yn honni fod y dystiolaeth feddygol yn ei achos yn wan ac nad oedd wedi cael y cymorth iawn yn ystod y broses gyfreithiol.

"Dim ond y prosiect hwn all glirio ei enw, gan nad yw ei deulu yn medru fforddio'r costau cyfreithiol - mae ei ddyfodol yn dibynnu ar hyn," meddai Ms Morgan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Julie Price fod newid euogfarn yn anodd iawn

Dywedodd yr Athro Julie Price, sefydlodd y prosiect yn 2005, fod pobl yn ysgrifennu atynt drwy'r amser yn gofyn am gymorth.

Mae cael lle ar y cwrs hefyd yn boblogaidd wrth i nifer o fyfyrwyr ymgeisio.

"Mae nifer y bobl sy'n herio euogfarn droseddol yn llwyddiannus yn fach iawn ac mae myfyrwyr yn dod i ganfod yn fuan bod yna nifer o rwystrau," meddai'r Athro Price.

Dim ond 2.6% o achosion o'r fath sydd wedi cyrraedd y Llys Apêl ers 1997.

Dyw'r myfyrwyr hyd yma ddim yn gwybod beth yw canlyniad yr apêl gan nad yw'r barnwr wedi cyhoeddi'r ddedfryd.

Ond mae nhw'n credu bod y profiad wedi bod yn werthfawr ac yn gallu dangos iddynt bod eu gwaith "yn cael effaith ar fywydau go iawn pobl".