Caneuon Cymraeg yn ffynnu ar Spotify

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gân Gwenwyn gan Alffa wedi cael ei ffrydio filiwn o weithiau ar Spotify - y tro cyntaf i gân Gymraeg gyrraedd y garreg filltir honno.

Clawr GwenwynFfynhonnell y llun, PYST
Disgrifiad o’r llun,

Clawr sengl Gwenwyn

Mae Spotify yn gallu gweld yn union yn lle mae'r gân wedi cael ei ffrydio, ac nid yng Nghymru mae'r holl ffans. Mae defnyddwyr Spotify yn amlwg yn 'nabod cân dda, os ydyn nhw'n deall y geiriau neu beidio...

Lleoliad gwrandawyr Gwenwyn ar Spotify ym mis Tachwedd

Pa ganeuon Cymraeg eraill sy'n boblogaidd ar Spotify? Dyma siart o'r 10 uchaf:

1. Gwenwyn - Alffa - 1 filiwn

2. Patio Song - Gorky's Zygotic Mynci - 973,734

3. Fratolish Hiang Perpeshki - Gwenno - 451,596

4. Fel i Fod - Adwaith - 461,222

5. Llonydd - Ifan Dafydd ac Alys Williams - 401,552

Gruff Rhys a'r Super Furry Animals
Disgrifiad o’r llun,

Gruff Rhys a'r Super Furry Animals

6. Bing Bong - Super Furry Animals - 336,622

7. International Velvet - Catatonia - 328,817

8. Sebona Fi - Yws Gwynedd - 267,881

Gwenno
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno

9. Chwyldro - Gwenno - 210,245

10. Yma o Hyd - Dafydd Iwan - 191,605

(Ffigurau cwmni ffrydio cerddoriaeth Spotify)

line

Hefyd o ddiddordeb: