Miliwn o wrandawyr i Alffa ar Spotify

  • Cyhoeddwyd
AlffaFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Band o Lanrug yw Alffa gyda Dion Jones fel prif leisydd / gitar a Siôn Land ar y drymiau.

Mae un o ganeuon y band Alffa wedi cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify.

Dyma'r tro cyntaf i gân cyfan gwbl Gymraeg gyrraedd miliwn yn ôl cwmni Pyst, sydd yn dosbarthu'r gân "Gwenwyn".

Mae'r gân yn arbennig o boblogaidd ymhlith gwrandawyr yng ngogledd America, Brasil, y Deyrnas Unedig a'r Almaen.

Dywedodd Alun Llwyd o'r cwmni dosbarthu Pyst: "Mae llwyddiant Alffa a Côsh yn ysgubol.

"Am y tro cyntaf maent wedi llwyddo i ryddhau cân lle mae cryfder y gân a'r recordiad wedi golygu ei bod wedi cael miliwn o wrandawyr yn fyd-eang - rhywbeth cynt nad oedd yn bosibl i ganeuon mewn ieithoedd lleiafrifol.

"Ond y peth mwyaf cyffrous yw mai adlewyrchiad yw hyn oll o gyfoeth, cryfder a phrysurdeb toreithiog labeli ac artistiaid Cymru. Megis cychwyn yw hyn."

Ffynhonnell y llun, Pyst

Alffa oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2017 a "Gwenwyn" yw eu hail sengl.

Cafodd y gân ei chynhyrchu gan gwmni Yws Gwynedd - Recordiau Côsh.

Dywedodd mewn ymateb i'r newyddion: "Dwi'n teimlo'n lwcus iawn cael rhedeg y label mewn amser mor gyffrous lle mae ffiniau ieithyddol yn cael ei chwalu'n racs mewn storm berffaith.

"Mae llwyddiant 'Gwenwyn' yn arwyddocaol mewn toman o ffyrdd, yr un mwyaf sylfaenol i'r band a'r label yw bod yr incwm ddaw o hyn yn mynd i ariannu albym cyfan i'r band, ac ar ddiwedd y dydd, dyna da ni yma i wneud - creu cerddoriaeth o safon gan fandiau mwyaf cyffrous Cymru."

'Teimlad rhyfedd'

Dywedodd Dion Wyn Jones, gitarydd a prif leisydd y band, fod yr holl sylw wedi bod "rhyfedd iawn" a'u bod nhw erioed wedi dychmygu y byddai pobl ar draws y byd yn gwrando ar eu cerddoriaeth.

"Mae hyn wedi bod yn hwb enfawr i ni fel band, a 'da ni'n hynod falch.

"Roedd yr holl beth yn annisgwyl iawn. Dwi'n teimlo fel dylai neb fod yn disgwyl y fath sylw, yn enwedig band mor ifanc sy'n canu yn Gymraeg."

Ychwanegodd Mr Jones eu bod nhw'n ganol y broses o recordio eu halbwm cyntaf gyda'r bwriad o'i ryddhau cyn Eisteddfod 2019.