2018 mewn rhifau

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ni ffarwelio gyda'r ffigwr 2018, yn hytrach na lluniau a phenawdau i ddweud rhai o straeon y flwyddyn - dyma nhw mewn rhifau.

Bwrlwm yn y Bae

Bu canmoliaeth i'r 'Eisteddfod Genedlaethol Heb Ffiniau' yng Nghaerdydd ar ddechrau Awst.

Gyda chymaint yn heidio i Fae Caerdydd, roedd Canolfan y Mileniwm - canolbwynt y Maes agored - yn brysur iawn.

50 mlynedd o achub bywyd

Yn 2018 fe ddathlodd tîm achub mynydd Llanberis ben-blwydd arbennig - hanner cant.

Dyma'r tîm achub prysuraf ym Mhrydain - 232 o alwadau yn 2018. Y mis prysuraf oedd Awst gyda 36 galwad, a'r gaeaf oedd y cyfnod lleiaf prysur - gyda saith wedi eu hachub ym mis Ionawr.

Roedd diweddglo'r achosion yn amrywio:

Dynion oedd y rhan fwyaf o'r rhai oedd angen cymorth: achubwyd 128 o ddynion a 95 o fenywod.

Ac mae'r holl alwadau yn arwain at oriau o waith i aelodau'r tîm - i gyd yn wirfoddolwyr.

Mae'r graff olaf yma yn dangos faint o amser oedd ei angen i ymdrin â'r digwyddiadau bob mis - a hefyd cyfanswm oriau pawb fu ynghlwm â'r gwaith achub, gan fod angen nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob galwad.

Mae'r byd yn grwn

Bu 2018 yn flwyddyn bwysig i dimau pêl-droed Cymru. Bu ond y dim i'r tîm merched gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed, a bu'n flwyddyn o newid i'r dynion o dan eu rheolwr newydd Ryan Giggs.

Fe chwaraeodd carfan Jayne Ludlow mewn cystadlaethau yn Ynys Cyprus a Phortiwgal, ac mewn gêm gyfartal yn erbyn Lloegr yn Southampton. Teithiodd tîm Ryan Giggs a'r cefnogwyr yn bell iawn yn 2018 - i China, Califfornia, Albania, Iwerddon a Denmarc - fel mae'r graff yma yn ei ddangos.

Gwenwyn ar draws y byd

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 2018 yn flwyddyn wych i'r band Alffa

Os oedd 2018 yn perthyn i un grŵp Cymraeg, Alffa oedd hwnnw.

Y band ifanc yma oedd enillwyr Brwydr y Bandiau Radio Cymru 2017. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedden nhw'n dathlu bod un o'u caneuon wedi ei ffrydio filiwn o weithiau ar Spotify. Ac fel mae'r siart yma'n ei ddangos - roedd y gwrandawyr yn dod o bedwar ban byd.

Ac ar y diwrnod wnaeth Alffa gyrraedd y miliwn - dyma'r caneuon Cymraeg eraill oedd yn boblogaidd ar Spotify, a'r nifer o weithiau gafon nhw eu chwarae ar y platfform gwrando ar gerddoriaeth.

1. Gwenwyn - Alffa - 1 filiwn

2. Patio Song - Gorky's Zygotic Mynci - 973,734

3. Fratolish Hiang Perpeshki - Gwenno - 451,596

4. Fel i Fod - Adwaith - 461,222

5. Llonydd - Ifan Dafydd ac Alys Williams - 401,552

6. Bing Bong - Super Furry Animals - 336,622

7. International Velvet - Catatonia - 328,817

8. Sebona Fi - Yws Gwynedd - 267,881

9. Chwyldro - Gwenno - 210,245

10. Yma o Hyd - Dafydd Iwan - 191,605

(Ffigurau cwmni ffrydio cerddoriaeth Spotify ar ddechrau Rhagfyr 2018)

Hei Mr Urdd!

Fis Hydref, cyhoeddodd yr Urdd eu bod am barhau gyda chynllun datblygu £5.5m yng ngwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn ar ôl i'r llywodraeth gytuno i ariannu hanner y gost.

Yn y dyfodol felly, mae'n bosib bydd y lle yn fwy prysur 'na 2018 hyd yn oed.