Dileu euogfarn ymosodiad rhyw gweithiwr gofal o Bowys
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llys Apêl wedi dileu euogfarn gweithiwr gofal 33 oed o Bowys, gafodd ei garcharu am ymosodiad rhyw ar glaf oedd â dementia.
Cafodd Gareth Jones o Drecastell, sydd ag anableddau dysgu, ei garcharu yn 2008 am yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan yr erlyniad fel ymosodiad "ciaidd" ar fenyw oedrannus mewn cartref nyrsio ger Aberhonddu.
Roedd myfyrwyr sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd wedi edrych i'w achos fel rhan o Brosiect Dieuog Caerdydd (Cardiff Innocence Project) - cynllun sy'n edrych ar achosion carcharorion sy'n mynnu eu bod yn ddieuog ac wedi cael cam gan y system gyfiawnder.
Dywedodd y barnwr yn y Llys Apêl, yr Arglwydd Ustus Simon, bod yr achos yn ei erbyn wedi bod yn un "annheg".
Tair blynedd a hanner dan glo
Roedd Mr Jones yn 22 oed ac wedi pledio'n ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd i gyhuddiad o gam-drin rhyw yn erbyn claf tra'n gweithio yng nghartref nyrsio The Mountains yn Libanus.
Cafwyd hyd i'r fenyw yn gwaedu yn fuan wedi i'r ddau fod ar ben eu hunain yn yr un ystafell am lai na phedwar munud.
Dywedodd yr erlyniad mai ef yn unig allai fod wedi anafu'r fenyw, a'i fod wedi dweud celwydd a gofyn i gydweithiwr ddweud bod hithau'n bresennol ar adeg yr ymosodiad honedig.
Ond fe benderfynodd rheithgor ei fod yn euog ac fe gafodd ddedfryd o naw mlynedd o garchar.
Cafodd y gosb ei gostwng o ddwy flynedd wedi i farnwr ddyfarnu mewn gwrandawiad apêl bod y ddedfryd wreiddiol yn rhy llym.
Treuliodd Mr Jones dair blynedd a hanner dan glo ac roedd yna orchymyn i'w enw fod ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
'Argraffiadau'n allweddol'
Ond fe ddywedodd y barnwr ddydd Gwener bod dim tystiolaeth fforensig i gysylltu Mr Jones ag anafiadau'r fenyw, ac yn niffyg tystiolaeth gadarn roedd argraffiadau'r rheithgor o'r diffynnydd yn "allweddol".
Clywodd y gwrandawiad bod anableddau dysgu a chyfathrebu Mr Jones yn ei wneud yn fwy tebygol o ildio a chytuno i awgrymiadau wrth gael ei groesholi a bod yn ddryslyd ynghylch manylion - pethau allai greu'r argraff ei fod yn dweud celwydd.
Ond fe gytunodd arbenigwyr hefyd ei fod hefyd â galluoedd fyddai wedi "cuddio" pa mor fregus oedd e.
Dywedodd y barnwr y byddai'r achos wedi cael ei gynnal mewn ffordd wahanol erbyn hyn, gan gynnwys penodi canolwr i helpu'r diffynnydd a rhoi cyfarwyddyd i'r rheithgor i gymryd ei anabledd i ystyriaeth.
Bydd ei enw nawr yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.
'Dim opsiwn arall'
Roedd aelodau Prosiect Dieuog Caerdydd yn dadlau bod y dystiolaeth feddygol yn erbyn Mr Jones yn wan, a bod dim trosedd wedi ei chyflawni.
Fe wnaethon nhw hefyd ddadlau na chafodd gefnogaeth briodol yn sgil ei anableddau dysgu yn ystod y broses gyfreithiol.
Cyn y dyfarniad, dywedodd gofalwr Mr Jones, Paula Morgan mai dim ond trwy ymdrechion y prosiect yr oedd modd iddo adfer ei enw da, gan na fyddai ei deulu'n gallu fforddio costau cyfreithiol dwyn achos eu hunain.
Dyma'r ail dro i fyfyrwyr ac arbenigwyr cyfreithiol Prosiect Dieuog Caerdydd - yr unig dîm o'i fath o fewn prifysgol yn y DU - lwyddo i newid euogfarn.
Fe wnaeth y tîm dorri tir newydd yn 2014 ar ôl dadlau achos Dwaine George - cyn-aelod gang a gafodd ddedfryd o garchar am oes yn 2002 wedi i Daniel Dale, bachgen yn ei arddegau, gael ei saethu'n farw ym Manceinion.
Roedd Mr George yn gwadu o'r dechrau nad oedd â rhan yn y llofruddiaeth ac ar ôl i'r myfyrwyr ddadansoddi'r dystiolaeth daeth barnwr i'r casgliad nad oedd sail ddigon cadarn i'w gael yn euog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2018