Adran 2: Stevenage 1-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Kurtis GuthrieFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kurtis Guthrie ei yrru o'r cae am dacl beryglus ar Fraser Franks

Roedd gôl hwyr gan gyn-ymosodwr Caerdydd, Alex Revell, yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i 10 dyn Stevenage yn erbyn Casnewydd.

Derbyniodd Kurtis Guthrie gerdyn coch yn hwyr yn yr hanner cyntaf am dacl beryglus ar Fraser Franks.

Er i Gasnewydd reoli'r chwarae a chreu sawl cyfle euraidd, roedd peniad Revell o groesiad Michael Timlin wedi 85 munud yn ddigon i selio'r triphwynt i'r tîm cartref.

Yn dilyn y golled mae'r Alltudion yn y 12 safle yn y tabl.