Cynigion rhatach ar fwyd sothach yn dylanwadu ar bobl
- Cyhoeddwyd
Mae gostyngiadau mewn pris i hyrwyddo bwyd sothach yn bennaf gyfrifol am arwain pobl at eu prynu, yn ôl ymchwil gan elusen.
Gofynnodd Cancer Research UK i dros 1,000 o bobl yng Nghymru am eu harferion prynu bwyd a chanfod bod 86% yn meddwl bod cynigion sy'n cynnig eitemau ychwanegol am ddim yn dylanwadu ar bobl i brynu bwyd sothach.
Yn ôl yr elusen, mae oddeutu 1,000 o achosion o ganser yng Nghymru yn sgil gordewdra, ac mae 13 math o ganser yn gysylltiedig â bod dros bwysau.
Yn ôl rheolwr materion cyhoeddus yr elusen yng Nghymru, mae nifer y bobl sy'n ordew yn y wlad yn "bryder sylweddol" ac mae galw am "weithredu amlwg".
Dywedodd 68% o'r bobl a ofynnwyd bod gostyngiadau mewn prisiau bwyd sothach yn eu hannog i'w prynu.
Cafodd canlyniadau'r arolwg eu cyhoeddi cyn i Lywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad cyhoeddus am sut i gyflwyno stratregaeth effeithiol i daclo gordewdra.
'Pryder sylweddol'
Dywedodd Andy Glyde, swyddog materion cyhoeddus Cancer Research yng Nghymru: "Nid yw'r cynigion yma'n iach, wrth berswadio pobl i anwybyddu eu rhestrau siopa a phrynu nifer fawr o sothach rhad.
"A gyda nifer brawychus o bobl dros bwysau ac yn ordew yng Nghymru, mae'n amlwg bod y ffigwr hwn yn bryder sylweddol, ac mae angen gweithredu."
Ychwanegodd Mr Glyde bod gan Lywodraeth Cymru "gyfle a chyfrifoldeb" i atal cynigion o'r fath.
"Drwy gyfyngu cynigion arbennig ar fwyd a diod sy'n sothach, gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth effeithiol i ddylanwadu ar gynnwys ein basgedi siopa a chadw pwysau pawb yn iachach."
Yn ôl Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru: "Mae adwerthwyr wedi ymrwymo'n llwyr i iechyd eu cwsmeriaid ac yn chwarae rhan flaenllaw wrth gynnig a hyrwyddo opsiynau iach yn eu siopau.
"Mae siopwyr Cymreig yn elwa o ystod eang o opsiynau iach, ffres a fforddiadwy wrth siopa ac mae adwerthwyr yn arwain y ffordd wrth ddarparu gwybodaeth glir am faeth, sy'n help i gwsmeriaid ddeall eu bwyd a meddu ar y wybodaeth gywir i wneud penderfyniadau."
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein bwriad yw hyrwyddo ffordd o fyw iach a phositif, gyda ffocws ar atal bod dros bwysau a gordewdra yn gynnar mewn plentyndod.
"Rydym wedi ymrwymo i leihau lefelau o ordewdra ac rydym yn ystyried nifer o gynigion am ein dulliau i gefnogi pobl i wireddu a chynnal pwysau iach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018