Galw ar i'r Llywodraeth gyfyngu ar werthiant bwyd sothach
- Cyhoeddwyd
Mae elusen Cancer Research UK yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio cyfyngu ar hawl siopau i werthu bwyd sy'n llawn braster a siwgr yn rhad.
Mae ystadegau'r elusen yn rhagweld mai gordewdra ac nid ysmygu fydd prif achos canser merched ymhen chwarter canrif.
O ganlyniad mae Cancer Research UK yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ac i gyfyngu ar hawliau archfarchnadoedd i werthu bwyd sothach am bris isel.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn ystyried nifer o gynlluniau er mwyn cefnogi pobl i gyrraedd a chynnal pwysau iach ac fe fydd cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau yn dod i rym cyn diwedd y flwyddyn."
Gordewdra yn uwch
Dywed llefarydd ar ran Cancer Research bod gordewdra yn gysylltiedig â mil o achosion (5%) yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae ffigyrau hefyd yn dangos bod cyfraddau gordewdra oedolion 33% yn uwch yn 2018 na'r gyfradd yn y 2000au cynnar.
Yn yr un cyfnod mae nifer y rhai sy'n ysmygu wedi gostwng.
Dywedodd rheolwr cysylltiadau cyhoeddus Cancer Research UK, Andy Glyde: "Mae'n fater cadarnhaol fod y Cynulliad o blaid taclo gordewdra ond nawr ry'n yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio oedi.
"Mae gwerthu bwyd sothach yn rhad ar raddfa eang mewn archfarchnadoedd yn ein hannog i fwyta cyflenwadau uchel o fwyd afiach ac felly ry'n yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael strategaeth i ddelio â'r broblem.
"Mae'r ffigyrau yn dangos bod gordewdra yn uwch ymhlith dynion ond maent hefyd yn dangos bod gordewdra yn cael mwy o effaith ar ferched wrth iddynt gael eu taro gan ganser y fron a'r groth - mathau o ganser sy'n fwy cysylltiedig â gordewdra nag eraill."
Mae'r elusen yn poeni hefyd mai dim ond tri o bob deg person yn y DU sy'n ymwybodol o'r cysylltiad rhwng gordewdra a chanser.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yr elusen yn cynnal ymgyrch ar draws y DU i roi gwybodaeth i'r cyhoedd am beryglon bwyta'n afiach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2016