Ar y Mark

  • Cyhoeddwyd

Wel dyma ni yn ôl ar y ffas a phawb a'u mandrelau wrth law i balu ymlaen trwy 2019.

O safbwynt y Cynulliad mae'r capten newydd wrth y llyw a chafwyd blas heddiw o'r hyn y gallwn ddisgwyl gan Mark Drakeford yn yr wythnosau a blynyddoedd i ddod.

Dydw i ddim yn gwybod pa un o'r duwiau neu'r diawled gwleidyddol oedd yn gyfrifol am y ffaith mae Neil McEvoy oedd yr aelod cyntaf i gael holi'r Prif Weinidog newydd. Fe ddaeth Neil McEvoy o fewn trwch blewyn i drechu Mark Drakeford yn yr etholiad Cynulliad diwethaf a theg yw dweud bod 'na fwy o gariad rhwng Efnisien a Matholwch na sy 'na rhwng y pâr yma!

Bant â ni felly gyda chwestiwn ymosodol gan Mr McEvoy ynghylch datblygiadau tai yng Ngorllewin Caerdydd a'r effaith ar draffig yn y ddinas. Mae'n bwnc sy'n poeni llawer ac rwy'n amau y byddai unrhyw aelod arall wedi derbyn ateb ystyrlon gan y Prif Weinidog ynghylch y pwnc.

Y cyfan gafodd Mr McEvoy oedd addewid i "drin y cwestiwn gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu". Miaw.

A dyna ddiwedd y gwreichion. Am yr awr nesaf fe ymatebodd Mr Drakeford yn bwyllog i gwestiynau o bob cyfeiriad er bod 'na awgrym efallai bod gan Adam Price, y gallu i fynd dan groen y Prif Weinidog.

Roedd tactegau arweinydd Plaid Cymru a'r arweinydd Ceidwadol, Paul Davies yn ddigon tebyg i'w gilydd. Ceisiodd y ddau glymu Mark Drakeford a record ei ragflaenwyr gydag Adam Price yn dewis gwendid economi Cymru fel maes y gad a Paul Davies yn canolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd.

Dydw i ddim am awgrymu bod y ddau arweinydd wedi bod yn cydlynu eu cwestiynau ond trwy gyd-ddigwyddiad plethodd ei hymosodiadau'n effeithiol a'i gilydd gan awgrymu y bydd y Prif Weinidog yn canfod fod y sesiwn gwestiynau yn llawer mwy heriol nac oedd hi yn nyddiau Carwyn, Leanne ac Andrew RT Davies.