Herio cyfreithlondeb aelod o gabinet Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi eu codi ynglŷn â chyfreithlondeb llywodraeth newydd Mark Drakeford.
Fe wnaeth Plaid Cymru rybuddio y gallai un o'i brif benodiadau fod yn anghyfansoddiadol.
Cyn y Nadolig fe gyhoeddodd y Prif Weinidog ei gabinet newydd, gan enwi Jeremy Miles fel y Gweinidog Brexit yn ogystal â'r cwnsler cyffredinol.
Ond mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dweud nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cael dal swydd gweinidog hefyd.
Fe wnaeth 31 o ACau bleidleisio ddydd Mawrth i gadarnhau Mr Miles fel y Cwnsler Cyffredinol, gyda 14 yn ymatal a chwech yn gwrthwynebu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd y Cwnsler Cyffredinol na'r Gweinidog Brexit yn cael eu penodi dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac felly na fyddai'n "defnyddio pwerau statudol" yn ei waith.
'Cyngor i'w hun'
Mae'r Cwnsler Cyffredinol, prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, hefyd yn cyflawni tasgau cyfreithiol annibynnol sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd.
Oherwydd hynny mae'n rhaid iddyn nhw gael eu penodi gan y Cynulliad cyfan.
Roedd Jeremy Miles, AC Castell-nedd, yn Gwnsler Cyffredinol dan ragflaenydd Mr Drakeford, Carwyn Jones.
Ond pan gymerodd Mr Drakeford yr awenau, fe newidiodd ei dîm gweinidogol ac ychwanegu Brexit at bortffolio Mr Miles.
Mae Plaid Cymru wedi codi pryderon am gyfreithlondeb hynny, oherwydd y gallai arwain at sefyllfa ble mae Mr Miles fel Cwnsler Cyffredinol yn cynnig cyngor cyfreithiol i'w hun fel Gweinidog Brexit.
"Dydy hyn ddim yn sefyllfa dderbyniol," meddai AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
"Mae'n rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol hefyd weithredu'n annibynol o'r llywodraeth ar adegau. Sut all rhywun sydd hefyd yn weinidog weithredu'n annibynol o'r llywodraeth?"
Mae Jeremy Miles yn cael ei ddisgrifio fel y Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar wefan Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn dweud bod ei gyfrifoldebau'n cynnwys y Cyd-bwyllgor Gweinidogion.
Yn ôl y llywodraeth nid yw'r Cwnsler Cyffredinol na'r gweinidog Brexit yn cael eu penodi dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac felly na fyddai Mr Miles yn "defnyddio pwerau statudol" yn ei waith.
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'n gallu cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau a rhoi cyngor, "yn ogystal â chydlynu cynllun cyson a chlir i ymateb y llywodraeth i Brexit".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018