Dirwy i ddynes oedd yn marchogaeth tra'n sal o'r gwaith

  • Cyhoeddwyd
Elise DavidFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe dderbyniodd Elise David tua £12,000 mewn tâl salwch yn ystod ei chyfnod o'r gwaith

Mae dynes wedi cael dirwy o dros £8,000 ar ôl hawlio tâl salwch er ei bod hi'n cymryd rhan mewn cystadlaethau marchogaeth ar y pryd.

Roedd Elise David, 33 oed o Borthcawl, yn rheolwr labordy i'r GIG, ac am gyfnod o bedwar mis fe honnodd ei bod hi mewn gormod o boen i weithio.

Cafodd David ei chyhuddo o dwyll ar ôl i'r rheithgor glywed ei bod hi wedi cystadlu mewn pedair cystadleuaeth marchogaeth yn ystod y cyfnod.

Dywedodd y barnwr ei bod hi wedi ymddwyn yn anonest ac wedi twyllo'r Gwasanaeth Iechyd yn fwriadol.

Fe gafodd David ei dedfrydu i 12 mis yn y carchar wedi ei ohirio, 180 awr o waith di-dâl, iawndal o £8,216.71 i'w dalu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ogystal â £2,500 mewn costau.

'Bwriadol, gofalus ac anonest'

Ym mis Mehefin 2016 fe ddywedodd David wrth ei chyflogwyr ei bod hi'n cael "trafferth cerdded" ar ôl anafu ei chefn wedi iddi ddisgyn oddi ar geffyl.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ei bod hi wedi mynychu pedair cystadleuaeth marchogaeth yn ystod ei chyfnod i ffwrdd o'r gwaith.

Yn ôl David roedd hi'n dilyn cyfarwyddiadau'r meddyg i wneud "ymarfer corff ysgafn".

Ychwanegodd y barnwr bod y ffaith ei bod hi wedi cymryd rhan yn y cystadlaethau yn "dweud y cyfan", gan ddisgrifio'r weithred fel un "bwriadol, gofalus ac anonest".