Coridorau Grym

  • Cyhoeddwyd

Dydw i ddim wedi ysgrifennu rhyw lawer ynghylch helyntion Theresa May. Dydw i ddim yn treulio llawer o amser yn San Steffan y dyddiau hyn ac rwy'n teimlo rhywsut bod popeth sydd 'na i ddweud wedi cael ei ddweud gan rywun yn rhywle!

Ar ôl dweud hynny wrth wylio Tŷ'r Cyffredin neithiwr roedd hi'n anodd anwybyddu pwysigrwydd y foment, nid yn unig o safbwynt Brexit ei hun ond hefyd o safbwynt ein cyfansoddiad. Ar ôl y bleidlais neithiwr, roeddwn i'n difaru braidd na fachais i'r gwerslyfrau ar ddiwedd y cwrs!

Mae'r Cyfansoddiad Prydeinig wedi hen ddiflannu o'r cwricwlwm ond yn ôl yn y saithdegau roedd y pwnc hwnnw yn ddewis hawdd i anorac gwleidyddol ifanc oedd yn dwlu ar gysyniadau megis 'y Goron yn y Senedd'!

Mae modd, pur hen ffasiwn, y dyddiau hyn, o weld hanes Lloegr yn y Canol Oesoedd fel ymgiprys rhwng y Goron a'r Senedd. Dyna, wedi'r cyfan, oedd wrth wraidd Magna Carta, y Rhyfel Cartref a'r Chwyldro Gogoneddus.

Mae 'na fwy nac adlais o'r ymgiprys hwnnw wedi amgylchynu digwyddiadau wrth i Aelodau Seneddol adfeddiannu grymoedd sydd wedi gorffwys yn Whitehall ers cenedlaethau. Mae hi bron yn bosib gweld y grym yn llifo ar draws Parliament Square o Whitehall a Downing Street ac i mewn trwy gyntedd San Steffan.

Mae'n anodd gorbwysleisio rôl y llysoedd a'r llefarydd yn hyn oll.

Pe na bai barnwyr Prydeinig wedi ymyrryd fe fyddai Theresa May wedi cyflwyno Erthygl 50 heb ofyn am ganiatâd a barnwyr Ewropeaidd wnaeth sicrhau fod gan y Deyrnas Unedig yw hawl i ddiddymu'r penderfyniad hwnnw pe bai'n dewis gwneud.

Mae'n sicr fod Mrs May yn tampan yn dawel bod cynllwynion slei David Cameron i gael gwared ar John Bercow wedi methu. Fe fyddai pethau wedi troi mas yn wahanol iawn pe bai ganddi ryw George Thomas o lefarydd oedd yn well ganddo addoli grym na'i herio.

Amser a ddengys a fydd Brexit wedi esgor ar berthynas newydd rhwng y Senedd a llywodraeth y dydd ond mae hanes yn awgrymu bod seneddwyr yn amharod iawn i ildio pwerau o'u hetifeddu.

Os felly, gallai Bercow gael ei ystyried yn un o lefarwyr pwysicaf y cyfnod modern yn ogystal â bod yn ffigwr allweddol yn yr holl gawlach yma.