Cadarnhau Delyth Jewell fel olynydd i Steffan Lewis

  • Cyhoeddwyd
siambr y cynulliad

Mae'r Cynulliad wedi cadarnhau olynydd Steffan Lewis fel Aelod Cynulliad.

Ddydd Mawrth cafwyd teyrngedau lu yn y Siambr i'r cyn-AC Plaid Cymru, fu farw yn 34 oed yn dilyn cyfnod yn dioddef o ganser.

Cafodd Mr Lewis ei ethol i'r Cynulliad yn 2016 fel aelod dros ranbarth Dwyrain De Cymru.

Bydd y person oedd yn ail ar restr Plaid Cymru yn y rhanbarth hwnnw, Delyth Jewell, nawr yn cymryd y sedd.

Mewn datganiad dywedodd y Cynulliad fod y Llywydd Elin Jones wedi cael ei hysbysu, ac y bydd Ms Jewell yn tyngu llw i gadarnhau ei phenodiad maes o law.

Mae Ms Jewell yn gyn-ymchwilydd i Blaid Cymru, ac yn fwy diweddar mae wedi gweithio gydag elusen ActionAid sy'n ymgyrchu dros hawliau merched mewn tlodi.