Rho i mi fanna...

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhai bod penolau'n cyndadau yn fwy gwydn na'n rhai ni. Roedd y rheiny yn gallu eistedd trwy oriau o dân a brwmstan ar y Sul tra bod meinciau capel yn anghysuro cynulleidfa o fewn byr o dro'r dyddiau hyn. Edrychwch o'ch cwmpas y tro nesaf y mae pregeth yn tynnu am ugain munud a chewch weld yr aflonyddwch!

Roedd gwylio sesiwn y Cynulliad ddoe rhywbeth yn debyg i brofiad ein cyndeidiau, dybiwn i. Cafwyd awr ar ôl awr o alar a gwae wrth i weinidogion gyflwyno eu cynllunio ar gyfer Brecsit heb gytundeb.

Mae'n rhyw fath o gysur bod y trefniadau hynny'n cael eu paratoi er teg yw nodi bod Carwyn Jones wedi mynnu nad oedd modd paratoi am 'drychineb' o'r fath pan oedd yntau'n Brif Weinidog.

Y gwir amdani wrth gwrs yw bod neb yn sicr iawn beth fyddai'n digwydd pe bai Prydain yn gadael yr undeb heb gytundeb. Mae llunio cynulliau wrth gefn yn gwneud synnwyr ond mae'n amhosib gwybod a fyddai'r trefniadau hynny'n gweithio ai peidio. Nid y gwleidyddion fydd yn pennu hynny ond y ffordd yr ydyn ni'n ymateb fel dinasyddion a defnyddwyr.

Cymerwch un esiampl. Dyma ran o ddatganiad y gweinidog llywodraeth leol, Julie James yn y siambr.

"I would just like to reassure people that there's no need to stockpile food... we're not expecting any widespread food shortages of any description. People should not stockpile food."

Efallai'n wir nad yw'r Llywodraeth yn rhagweld prinder bwyd ond pe bai gweinidogion yn ofni sefyllfa o'r fath go brin y byddai 'na werth mewn cyfaddef hynny.

Efallai eich bod chi'n cofio'r hyn ddigwyddodd yn ôl yn y flwyddyn 2000 pan gafwyd protestiadau gan yrwyr lori y tu fas i rai o'n purfeydd olew. O fewn dyddiau roedd rhan helaeth o'r wlad ar stop a bron pob gorsaf betrol wedi cau. Doedd dim prinder petrol mewn gwirionedd ond arweiniodd y canfyddiad y gallasai 'na fod at yr union ffenomen honno.

Mae'r un peth yn digwydd bob tro y mae meteorolegwyr yn darogan tywydd garw gyda phobol yn gwagio silffoedd llaeth a bara'r archfarchnadoedd mewn panig gwyllt.

"Keep Calm and Carry On" yw'r neges anorfod o du'r Llywodraeth felly. Eich dewis chi yw p'un ai i dderbyn y cyngor hwnnw ai peidio!