Carcharu dyn am ladd Carol Boardman trwy yrru'n ddiofal

  • Cyhoeddwyd
Carol BoardmanFfynhonnell y llun, Chris Boardman
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carol Boardman yn cystadlu mewn rasys yn ei hieuenctid ac wedi parhau i seiclo hyd ei hoes

Mae gyrrwr wnaeth bledio'n euog i ladd mam y pencampwr seiclo Olympaidd, Chris Boardman mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint wedi ei ddedfrydu i 30 wythnos o garchar.

Roedd Liam Rosney, 33, o Gei Connah wedi cyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Bu farw Carol Boardman, 75, yng Ngorffennaf 2016 ar ôl cwympo oddi ar ei beic ar gylchfan yng Nghei Connah a chael ei tharo gan gerbyd Rosney.

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands wrth ei ddedfrydu bod ei gyfraniad i'r ddamwain yn sylweddol oherwydd methiant i ganolbwyntio ar ôl defnyddio ffôn symudol eiliadau cyn y gwrthdrawiad.

"Ni alla'i anwybyddu gwirioneddau'r sefyllfa eich bod newydd orffen sgwrs eiliadau ynghynt," meddai. "Y gwir yw: roedd eich meddwl yn dal ar y sgwrs yna."

Oni bai am y ffactor hwnnw, ychwanegodd y barnwr, roedd "pob siawns" y byddai'r ddamwain wedi ei cael ei hosgoi.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Rosney hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 18 mis a hanner

Cafodd Mrs Boardman, 75, anafiadau niferus ar ôl cael ei tharo gan fan Mitsubishi y diffynnydd. Bu farw y diwrnod canlynol yn Ysbyty Duges Caer.

Dywedodd Chris Boardman: "Mae fy nhad wedi colli ei gymar o 50 mlynedd, sy'n gwbl dorcalonnus."

Wrth drafod effaith y farwolaeth ar ei deulu, roedd yn cwestiynnu natur y cyhuddiad yn erbyn y diffynnydd.

"Nid ydym yn trin troseddau sy'n cael eu cyflawni mewn cerbydau fel rhai difrifol... mae rhywun yn gallu bod yn ddiofal a gwasgu rhywun arall i farwolaeth ac mae hynny'n cael ei gyfri yn ddiofal."

Mae'n dweud nad yw am weld nifer fawr o bobl yn cael eu carcharu, ond bod angen lleihau gallu pobl i achosi niwed.

Mae'n galw am ailedrych ar y gyfraith, gan ddweud nad yw'r gosb bresennol yn ddigon llym i berswadio pobol i beidio defnyddio ffonau symudol tra'n gyrru, a bod dim rheswm o ganlyniad iddyn nhw newid eu hymddygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Liam Rosney a'i wraig Victoria yn ystod gwrandawiad blaenorol

Dywedodd y Sarsiant Emlyn Hughes o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd bod "marwolaeth ddi-angen" Mrs Boardman yn amlygu "canlyniadau difrifol" gyrru heb ganolbwyntio.

Ychwanegodd fod ffonau symudol "yn ymyriad angheuol sydd, fel yn yr achos anffodus yma, yn arwain at ofid difesur".

Cafwyd Rosney a'i wraig, Victoria, yn ddieuog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ym mis Gorffennaf y llynedd.