Delyth Jewell yn cael ei derbyn fel Aelod Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Delyth JewellFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Mae Delyth Jewell wedi tyngu llw a chael ei derbyn fel Aelod Cynulliad newydd Plaid Cymru dros ranbarth Dwyrain De Cymru.

Bydd Ms Jewell yn olynu Steffan Lewis, fu farw ym mis Ionawr ar ôl brwydr a chanser.

Dywedodd y byddai yn ymdrechu i "anrhydeddu Steffan" yn ei swydd newydd.

Yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, bydd Ms Jewell yn "Aelod Cynulliad heb ei hail".

Yn wreiddiol o Gaerffili, mae'r Aelod Cynulliad newydd yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen.

Bu hi'n gweithio fel ymchwilydd seneddol yn San Steffan, gan chwarae rôl flaenllaw mewn sawl ymgyrch i newid cyfreithiau stelcian a thrais yn y cartref.

'Braint anferthol'

Dywedodd Ms Jewell: "Mae'n fraint anferthol i olynu Steffan Lewis fel Aelod Cynulliad Cymru dros De Ddwyrain Cymru.

"Bydd popeth y byddaf yn ei gyflawni yn fy swydd newydd yn cael ei wneud i anrhydeddu Steffan ac i gynrychioli'r bobl y gwnaeth ef eu cynrychioli mor dda."

Ychwanegodd Mr Price: "Tra'n a ni mewn amgylchiadau eithriadol o drist, bydd Delyth yn gaffaeliad i grŵp cabinet cysgodol Plaid Cymru yma yn ein Senedd.

"Bydd sgiliau a thalentau eang Delyth yn ei gwneud hi'n Aelod Cynulliad heb ei hail a chynrychiolydd arbennig - nid yn unig i ranbarth y de ddwyrain ond ar gyfer Cymru gyfan."

Tyngodd Ms Jewell ei llw yn breifat brynhawn Gwener.