Zip World i ehangu i'r de
- Cyhoeddwyd
Mae busnes Zip World wedi datgelu cynlluniau i agor canolfan newydd yn Rhigos, Rhondda Cynon Taf.
Mae gan y cwmni dri safle yn Eryri, ac yn ôl y cwmni maen nhw wedi cyfrannu dros £250m at economi'r gogledd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
'Dyw union leoliad y ganolfan newydd heb gael ei ddatgelu ond mae adroddiadau y gallai safle hen lofa'r Tŵr fod dan ystyriaeth.
Mae'r cwmni wedi dechrau proses ymgynghori wrth i gais cynllunio gael ei baratoi.
Yn ôl Sean Taylor, sylfaenydd a phrif weithredwr y cwmni, mae hyn yn "garreg filltir enfawr i Zip World".
Eu bwriad meddai yw datblygu "lleoliad eiconig a chreu atyniad o safon ryngwladol".
"Oherwydd ein safleoedd ym Mlaenau Ffestiniog a Bethesda rydym wedi ein cysylltu ag ardal y llechi. Nawr ein bwriad yw gwneud yr un peth yng nghartref y diwydiant glo," ychwanegodd.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan.
"Mae penderfyniad Zip World i gyflwyno cais cynllunio i ddatblygu safle ger Rhigos , yn ddatblygiad positif i botensial twristiaeth yn y cymoedd," meddai.
"Mae'n galonogol bod Zip World yn adnabod y cyfleodd i ddenu ymwelwyr i'r ardal, gan greu swyddi lleol a buddion economaidd i'r ardal."
Mae disgwyl i'r cwmni gyflwyno cais cynllunio manwl ar ôl ymgynghori â swyddogion cynllunio'r sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd1 Awst 2018
- Cyhoeddwyd8 Medi 2017