'Esgeuluso' ardaloedd gwael o ran llygredd awyr

  • Cyhoeddwyd
CarFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynllun Llywodraeth Cymru i daclo llygredd ger ffyrdd yn esgeuluso nifer o ardaloedd lle mae lefel nitrogen deuocsid (NO2) yn uwch na'r ffiniau cyfreithiol, yn ôl Prifysgol Abertawe.

Mae NO2 yn nwy sy'n cael ei gysylltu gyda 1,000 o farwolaethau cynamserol yng Nghymru bob blwyddyn.

Mewn dadansoddiad a gyflwynwyd i Aelodau Cynulliad gan ymchwilwyr y brifysgol, roedd lefelau NO2 yn rhy uchel ar 81 o safleoedd ar draws de Cymru.

Yn ei strategaeth awyr lan, mae'r llywodraeth ond yn targedu saith o safleoedd o'r fath.

Galw am weithredu ar frys

Dywedodd yr Athro Paul Lewis, cyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd a Rheolaeth, Ymchwil a Dyfeisgarwch Amgylcheddol: "Mae o leiaf deg gwaith yn fwy o safleoedd felly ar draws Cymru, ond ni fydd y safleoedd hynny'n cael eu targedu yn y dyfodol agos."

Ychwanegodd yr Athro Lewis, sy'n aelod arbenigol o grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar Ddeddf Awyr Lan Cymru, fod angen gweithredu ar frys wedi i lefelau anniogel o NO2 gael eu darganfod mewn bron 10% o'r 835 o safleoedd oedd yn cael eu monitro gan awdurdodau lleol Cymru yn 2016.

Ond nid yw'r data gan yr awdurdodau lleol yn rhan o strategaeth ansawdd awyr Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd.

Yn hytrach mae'r llywodraeth yn defnyddio data gan yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sydd ond yn targedu saith safle: pum heol ar draws Cymru lle mae'r terfyn cyflymder wedi ei ostwng i 50mya a dwy yng Nghaerdydd a Chaerffili lle mae gan y cynghorau tan fis Mehefin i ddyfeisio cynllun eu hunain i leihau lefelau NO2.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth wedi gostwng y terfyn cyflymder i 50mya ar bum ffordd, gan gynnwys yr M4 ym Mhort Talbot

Yn ôl yr Athro Lewis, mae hynny'n golygu fod safleoedd yn y gorllewin, Abertawe a'r cymoedd wedi eu hesgeuluso.

"Mae angen dirfawr i daclo'r safleoedd eraill yma," meddai.

"Mae llawer o'r mil a mwy o bobl sy'n marw oherwydd eu bod yn dod i gysylltiad â gormod o NO2 yn byw yn yr ardaloedd yma, ac os na fyddwn yn mynd i'r afael â'r broblem fe fyddwn ni'n dal i weld llawer o bobl yn marw yn yr ardaloedd yma."

'Rhaid cael mesuriadau cywir'

Dywedodd cadeirydd grŵp awyr lân y Cynulliad, AC Plaid Cymru Dr Dai Lloyd: "Fe ddylen ni fod yn edrych ar y dystiolaeth i gyd.

"Yn sicr mae'n fater sydd angen ei daclo, ond mae'n rhaid i ni wybod yn union beth yr ydym yn ceisio'i daclo, ac mae hynny'n dechrau gyda mesuriadau cywir a manwl."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Dai Lloyd AC yw cadeirydd grŵp awyr lân y Cynulliad

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd yr awyr yng Nghymru ac rydym yn gweithredu.

"Wrth sefydlu rhaglen awyr lan i Gymru yn yr haf, rydym yn ystyried beth all gael ei wneud ar draws bob adran o'r llywodraeth a sectorau i leihau llygredd awyr.

"Fe wnaethon ni hefyd ymgynghori ar gynllun i daclo lefelau NO2 ar ochr ffyrdd, ac mae hwnnw'n amlinellu camau ar bum safle ar Rwydwaith Ffyrdd Reoledig Llywodraeth Cymru a dau mewn ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.

"Mae'r camau hynny wedi'u cynllunio i gyrraedd lefelau cyfreithlon o NO2 o fewn yr amser lleia' posib ac, yn bwysicach, i warchod iechyd y cyhoedd."