Perfformiad uned frys Ysbyty Maelor yw'r gwaethaf ar gofnod
- Cyhoeddwyd
Yr amseroedd aros ar gyfer uned frys ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Ionawr yw'r gwaethaf ar gofnod yng Nghymru.
Dangosodd y ffigyrau diweddaraf, gafodd eu cyhoeddi dydd Iau, mai dim ond 49.3% o gleifion dreuliodd llai na pedair awr yn yr uned frys.
Y targed yw bod 95% o gleifion yn cael eu trin o fewn yr amser yma.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod cynnydd yn nifer y cleifion mewn oed a diffyg staff ar fai am y ffigyrau hyn, ond eu bod yn cydnabod nad yw'r perfformiad cystal ag y dylai fod.
Yn gyffredinol, 77.2% o gleifion dreuliodd llai na phedair awr mewn uned frys cyn cael eu trin, eu symud i ward neu gael eu gyrru adref. Roedd hyn yn waeth na'r ffigwr ar gyfer yr un cyfnod y llynedd - 77.8%.
Daeth i'r amlwg bod 5,292 o gleifion wedi disgwyl mwy na 12 awr i gael eu trin. Y targed yw bod neb yn gorfod disgwyl cyhyd mewn uned frys.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ei fod wedi "siomi" wrth weld fod dirywiad cyffredinol ym mherfformiad unedau brys yng Nghymru ond bod agweddau eraill yn fwy calonogol.
Ychwanegodd fod pedwar bwrdd iechyd wedi gwella eu perfformiad o gymharu â mis Ionawr y llynedd, a bod mwy o gleifion wedi cael eu trin ym mis Ionawr eleni nac unrhyw flwyddyn arall ers 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018