Peint yn y Prins
- Cyhoeddwyd
Nawr bod Tafarn Bessie yng Nghwm Gwaun wedi ei llosgi mae'n debyg taw tafarn y Prince of Wales yng Nghynffig, y Tŷ Newydd i rai, yw fy hoff dafarn yng Nghymru.
I'r rheiny sydd ddim yn gyfarwydd â'r lle mae'r adeilad, sy'n dyddio o'r pymthegfed ganrif, hefyd yn gartref i neuadd bwrdeistref Cynffig wnaeth ddiflannu o dan dwyni tywod Morgannwg yn ôl yn y canol oesoedd.
Y dewin Myrddin oedd yn gyfrifol am dranc y lle yn ôl y chwedl leol ond beth bynnag yw'r gwir am hynny fe barodd Cynffig i fod yn endid gwleidyddol am ganrifoedd ar ôl i'r lle ei hun ddiflannu. Roedd hi'n un o'r wyth bwrdeistref yn etholaeth "Bwrdeistrefi Caerdydd" tan 1832. Parodd y cyngor ei hun a'r llys barn tan 1886 ac mae ei olynydd, ymddiriedolaeth elusennol, o hyd yn berchen ar lwyth o dir ac eiddo ac yn cwrdd yn yr hen neuadd.
Yn hynny o beth, fe barodd Cynffig llawer iawn yn hwy na mae gwladwriaethau yn tueddu i wneud. Mae'r rheiny'n ymddangos yn bethau parhaol a digyfnewid ond mewn gwirionedd pethau digon byrhoedlog yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Cymerwch Ffrainc fel enghraifft. Ydy, mae rhywbeth o'r enw Ffrainc wedi bodoli er oes pys ond ers 1789 mae hi wedi bod yn gartref i o leiaf wyth gwahanol gwladwriaeth, pump ohonynt yn weriniaethau, dwy ymerodraeth a hyd oed un egwyl fach fel brenhiniaeth.
Dyw'r Deyrnas Unedig gyda'i ffiniau a chyfansoddiad presennol ddim wedi cyrraedd ei chant eto ac mae'n ffaith fach ryfeddol mai un o'r gwladwriaethau hynaf yn y byd yw Unol Daleithiau America, gwlad nad oedd yn bodoli tan 1775.
Rwy'n dweud hyn oll er mwyn gwneud y pwynt bod newid ac esblygiad cyfansoddiadol yn beth arferol a chwbwl normal. Yn hynny o beth, dyw penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd ddim hanner cymaint o beth ac mae rhai yn credu ac yn honni.
Mae'n newid cyfansoddiadol a allasai gael effeithiau economaidd difrifol i rai, ydy, ond fe fyddai cymdeithas unedig yn gallu dygymod a'r rheiny. Y broblem i'r Deyrnas Unedig yw nid Brexit ei hun ond yr hyn a'i hachosodd hi, yr hollt ddofn oedd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau ond wnaeth gael ei hamlygu gan y refferendwm.
Bellach rydym wedi ein rhannu'n ddau lwyth, y mewnwyr a'r maswyr, gyda'r naill na'r llall yn deall ei gilydd nac yn fodlon gwrando ar ddadleuon eu gwrthwynebwyr. Mae'n ymddangos i mi bod y rhaniad hwnnw'n un hir dymor ac fe fydd yn rhaid i'n system bleidiol ac, yn wir, ein gwladwriaeth newid yn sylfaenol er mwyn dygymod a'r realiti newydd.
Nid yr Undeb Ewropeaidd sy mewn peryg o ganlyniad i Brexit ond y Deyrnas Unedig ei hun. Does ond gobeithio y bydd ein tafarnau gorau yn goroesi'r hyn sydd i ddod!