Celain yw May cyn Calan Mai

  • Cyhoeddwyd

Rwy'n ymddiheuro am ailgylchu trydariad o neithiwr fel pennawd y bore 'ma ond roedd e'n un da ac yn haeddu esboniad efallai!

Mae maint colled Theresa May yn siarad drosti hi ei hun ond efallai nad y bleidlais ei hun oedd y peth mwyaf arwyddocaol i ddigwydd neithiwr.

Yn bwysicach efallai, wrth i ni symud ymlaen, oedd penderfyniad Mrs May i beidio â chwipio'r bleidlais heddiw ynghylch diystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ystyriwch hynny am eiliad. Mae hon yn bleidlais dyngedfennol i'n dyfodol ni gyd. Yn ei haraith ddoe fe gyfaddefodd y prif weinidog y byddai gadael heb gytundeb yn ergyd i fusnesau a theuluoedd. Mae'n werth dyfynnu ei geiriau.

"In the long term, we could ultimately make a success of no deal, but there would be significant economic shock in the short term. Be in no doubt about the impact that would have on businesses and families. We would lose the security co-operation that helps to keep us safe from crime, terrorism and other threats, and we would risk weakening support for our union."

Meddyliwch. Dyma gam y mae'r prif weinidog yn credu fyddai'n achosi sioc economaidd, yn peryglu'n diogelwch ac yn bygwth undod y deyrnas. Ond gwnewch chi beth i chi moen, bois, does dim barn gyda'r llywodraeth ynghylch sut dylech chi bleidleisio.

Llywodraeth mewn enw'n unig a phrif weinidog mewn enw'n unig sy'n ymddwyn felly. Fe fyddai Theatr Fach Llangefni yn gallu gwneud gwell sioe o lywodraethu.

Rydym yn canfod ein hunan yng nghanol y dyfroedd mawr a'r tonnau, heb gapten, heb siart a heb long os oes a wnelo Chris Grayling unrhyw beth â'r sefyllfa!

Dydw i ddim yn gwybod beth sy'n debyg o ddigwydd ond un peth sy'n sicr. Mae dyddiau Mrs May wedi eu rhifo gan ychwanegu ei henw at y gyfres ddiflas o brif weinidogion sydd wedi ein harwain dros y ddegawd ddiwethaf. Brown. Cameron. May. Oes modd i bethau fynd yn waeth?