Pam y sioc?

  • Cyhoeddwyd

Yn ôl yn nyddiau'r arth a'r blaidd pan oeddwn i yn grwt doedd yr ysgolion ddim yn cynnig gwleidyddiaeth fel pwnc. Roedd yn cael ei ystyried yn rhy ddadleuol mae'n debyg.

Yn ei le cynigiwyd lefel A ynghylch y Cyfansoddiad Prydeinig a does dim angen llawer o ddychymyg i wybod mai hwnnw oedd fy hoff bwnc yn y 6ed.

Medraf ddweud wrthych hyd heddiw am arwyddocâd Maenordy Northstead yn ein cyfansoddiad a beth oedd union natur y bwrdeistrefi 'potwalloper'.

Ond yr hyn sy'n aros yn y cof fwyaf oedd brawddeg gyntaf yr athro ar ddechrau'r cwrs sef hon: "Er mwyn astudio'r Cyfansoddiad Prydeinig mae'n rhaid ei ganfod yn gyntaf."

Darn i fytholeg yw'r syniad bod gan y Deyrnas Unedig cyfansoddiad anysgrifenedig. Mae'r cyfan wedi ei sgwennu lawn yn rhywle - ond mae'n rhaid i chi wybod lle i edrych.

Un o'r ffynonellau pwysicaf yw'r Beibl seneddol Erskine May a chan fy mod yn weddol gyfarwydd â hwnnw, roeddwn i'n crafu fy mhen braidd fod pobol wedi ei synnu gan benderfyniad John Bercow i wahardd trydedd bleidlais ar ddêl Theresa May.

Mae'r rheol yn un cwbwl eglur.

Roedd Angela Eagle a Chris Bryant wedi tynnu sylw'r llefarydd at y broblem yn y Senedd. Doedd dim dewis ganddo felly ond gwneud dyfarniad a phan holais cyn-glerc y Tŷ, Arglwydd Llysfaen, ynghylch y pwnc fore Sul roedd e'n gadarn o'r farn bod gwaharddiad mwy neu lai yn anorfod.

Rhan o'r rheswm am hynny yw personoliaeth John Bercow ei hun. Mae'n bosib y byddai llefarydd mwy gwasaidd, rhyw George Thomas o ddyn, yn rhoi rhwydd hynt i'r Llywodraeth ond mae dirmyg Bercow tuag at fainc flaen ei gyn-blaid yn amlwg i bawb. Pam ddylse fe wneud ffafrau i bobol sy'n ei ddirmygu'n gyson ac sydd wedi ceisio rhoi cyllell yn ei gefn ar fwy nac un achlysur?

Pwy all ei feio? Wedi'r cyfan os ydych chi eisiau chwarae'r gêm wleidyddol oni ddylech chi ddysgu'r rheolau yn gyntaf?