Y ffordd i Damascus
- Cyhoeddwyd
Pan oedd Teresa o Ávila yn saith oed fe redodd i ffwrdd o'i chartref yn Sbaen i geisio merthyrdod trwy frwydro yn erbyn y Mwriaid. Yn ôl y stori wncwl gwyliadwrus wnaeth ei rhwystro hi a dyw hi ddim yn eglur os oedd hi'n rhedeg trwy gae o wenith ar y pryd!
Merthyrdod o fath arall sy'n wynebu Theresa ein hoes ni, heb unrhyw arwydd fod 'na ewythr caredig yn gwylio drosti.
Yn ystod y dyddiau nesaf, efallai heddiw hyd yn oed, fe fydd yn rhaid i Mrs May benderfynnu pu'n ai i aberthu ei gyrfa wleidyddol er mwyn cael y cwch i'r lan o safbwynt ei dêl Brecsit.
Fe fyddai'r penderfyniad hwnnw yn rhyfeddol o anodd hyd yn oed pe bai 'na sicrwydd y byddai'r aberth yn cael ei wobrwyo. Wedi'r cyfan does 'na ddim llawer o bwynt ceisio merthyrdod ac yna canfod eich hun yng nghanol purdan!
Fy nheimlad i yw nad yw'r niferoedd yna eto a bod Jacob Rees-Mogg a Boris Johnson wedi gadael eu tröedigaethau'n rhy hwyr i allu achub cynllun y Prif Weinidog.
Pam felly? Wel, yn rhannol oherwydd yr ymosodiad chwyrn yna gan y Prif Weinidog ar Aelodau Seneddol sy'n gwneud hi llawer yn llai tebygol y bydd rebeliaid Llafur yn fodlon achub ei chroen hi rhag y Bregsitwyr caled wnaiff wrthwynebu'r ddêl doed a ddelo.
Mae 'na ffactor arall hefyd. Heddiw fe fydd Aelodau Seneddol yn cynnal y gyfres yna o bleidleisiau mynegol ac mae'n ddigon posib y bydd aelodau seneddol yn crynhoi tu ôl i ryw fath o Fregsit meddal. Os ydy hynny'n digwydd fe fyddai'r cwestiwn wedi newid o ddewis rhwng gadael heb gytundeb a gadael gyda chytundeb Mrs May i ddewis rhwng Bregsit caled ac un meddal. Wrth iddi ennill cefnogaeth yr ERG felly gallai Mrs May golli Bregsitwyr mwy cymedrol ar y meinciau Ceidwadol.
Fedrai ddim bod yn sicr o hyn ond mae'n ymddangos i mi bod Jacob a Boris wedi colli'r bws olaf i Ddamascus.