Bregusit

  • Cyhoeddwyd

Mae Epirus yn un o'r gwledydd hynny sydd wedi syrthio oddi ar y map ond am gyfnod yn y blynyddoedd cyn Crist hi oedd gwlad fwyaf grymus y byd Groegaidd, cymaint felly nes iddi fynd ben ben a Rhufain a cheisio ei goresgyn. Yn wir, llwyddodd yr Epirusiaid i osod y ddinas oesol dan warchae am gyfnod byr cyn gorfod cilio yn ôl ar draws Fôr Adria.

Efallai bod enw Epirus wedi mynd yn angof ond fe fydd enw ei brenin yn ddigon cyfarwydd. Y brenin Pyrrhus wnaeth arwain y cyrch ac eiddo ef yw'r geiriau "Ne ego si iterum eodem modo uicero, sine ullo milite Epirum reuertar" neu "buddugoliaeth arall fel hon a dychwelaf i Epirus ar ben fy hun". O'r hanes hwnnw y mae'r dywediad "buddugoliaeth burrhig" yn dod.

Nawr gan fod Boris Johnson a Jacob Rees-Mogg mor hoff o wisgo'u Lladin ar lewys eu crysau mae'n siŵr eu bod yn gyfarwydd â ffawd yr hen Byrrhus. Eto i gyd, mae 'na beryg eu bod am ei efelychu trwy ennill buddugoliaeth fydd yn arwain at dranc eu hachos.

Y fuddugoliaeth oedd canlyniad refferendwm 2016 wrth reswm, y canlyniad tebygol yw plaid Geidwadol ranedig, gwan ac amhosib ei harwain.

Mewn erthygl yn y Telegraph y bore 'ma ceir rhybudd gan William Hague y bydd arweinydd nesaf y Ceidwadwyr yn etifeddu adfail. Dywed hyn:

"The Conservative party, I sense, is in danger of losing the support of hopeful young people with ambitions, and it cannot win elections without such people. Moreover, the Conservatives are inevitably identified with the Brexit project, for good or ill, and slowly, steadily, the case for Brexit is being lost... The Conservatives thus face the terrible double prospect of voters shifting away from supporting their central policy, while those who do support it become enraged by the failure to deliver it."

Mae'r rhybudd yn un amserol ond mae'n anodd gweld unrhyw ffordd mas i'r Llywodraeth oni cheir rhyw achubiaeth wyrthiol i ddêl Theresa May.

Fe fydd unrhyw fath o ohiriad i Bregsit yn cael ei ystyried yn frad gan y Bregsitwyr tra y byddai gadael heb ddêl yn dinistrio USP y Ceidwadwyr fel plaid resymol a rhesymegol sy'n gofalu am fuddiannau byd busnes.

Wrth gwrs, i raddau, fe dynnodd David Cameron a Theresa May y cyfan ar eu pennau eu hunain ond mae 'na ddigon o fai i allu ei rannu o gwmpas ychydig a phwy na all gydymdeimlo â'r Torïaid hynny sy'n sibrwd o dan eu hanadl "Boris delenda est".