Saliwt Natsïaidd: Wayne Hennessey'n ddieuog
- Cyhoeddwyd
Mae golwr Cymru a Crystal Palace, Wayne Hennessey, wedi ei gael yn ddieuog o dorri rheolau ymddygiad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Roedd Hennessey wedi gofyn am wrandawiad personol wedi iddo gael ei gyhuddo o wneud saliwt Natsïaidd mewn digwyddiad wrth i Crystal Palace ddathlu buddugoliaeth yng Nghwpan yr FA yn gynharach eleni.
Cafodd lluniau o'r digwyddiad eu rhannu ar wefan gymdeithasol.
Wedi'r gwrandawiad dywedodd FA Lloegr nad oedd y cyhuddiad "wedi'i brofi" gan gomisiwn rheoleiddio annibynnol.
Dywedodd datganiad yr FA: "Honnwyd fod gweithred a wnaeth ac a ddangoswyd mewn llun ar wefannau cymdeithasol yn dwyn anfri ar y gêm yn groes i reol E3(1).
"Honnwyd hefyd fod hyn yn weithred hiliol yn groes i reol E3(2). Roedd golwr Crystal Palace wedi gwadu'r cyhuddiad."
Wrth wadu'r honiad ar 6 Ionawr, dywedodd Hennessey ei fod yn galw ar y person oedd yn tynnu'r llun a bod unrhyw debygrwydd i saliwt Natsïaidd yn "gyd-ddigwyddiad llwyr".
"Gallaf sicrhau pawb na fyddwn i fyth yn gwneud hynny."