Ysgolion i gael cynnyrch mislif am ddim

  • Cyhoeddwyd
Cynnyrch mislif
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynnyrch mislif ar gael am ddim i bob disgybl ysgol yng Nghymru

Bydd dros 141,000 o ferched yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru â hawl i dderbyn cynnyrch mislif am ddim wedi i weinidogion neilltuo grant o £2.3m i gynghorau i ariannu'r cynllun.

Nod y cynllun yw mynd i'r afael â thlodi misglwyf gan gynorthwyo teuluoedd sydd methu â fforddio nwyddau addas.

Eisoes mae'r cynhyrchion ar gael am ddim mewn ysgolion yn Lloegr ac yn ddiweddar penderfynwyd cynnig deunyddiau pwrpasol am ddim i gleifion yn ysbytai Cymru.

Dywed ymgyrchwyr bod merched ifanc yn aml yn absennol o'r ysgol am nad ydynt yn gallu fforddio cynnyrch addas adeg mislif.

Yng nghynhadledd y Blaid Lafur ddydd Sadwrn dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd yr arian ar gael i gynghorau yn syth.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae'n anodd credu bod menywod ifanc yn gorfod colli diwrnodau o'u haddysg am nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar gynnyrch ar gyfer y mislif, neu fforddio talu amdanynt.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i drechu'r anghydraddoldeb hwn yng Nghymru, ac fe fydd y cyllid yn helpu i sicrhau bod eitemau ar gyfer y mislif ar gael i bob dysgwr ym mhob ysgol, yn rhad ac am ddim ac yn y ffordd fwyaf urddasol bosib."

Yn ôl ymchwil gan Plan International, mae 15% o ferched yn ei chael yn anodd fforddio talu am eitemau ar gyfer y mislif, mae 14% wedi gorfod benthyg gan ffrind, a bron i 20% wedi gorfod defnyddio cynnyrch llai addas gan fod y gost yn broblem.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cynllun yw cynorthwyo teuluoedd na sy'n gallu fforddio cynhyrchion addas yn ystod mislif

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi urddas yn ystod mislif ac yn parhau i fuddsoddi mewn ysgolion er mwyn helpu i drechu tlodi mislif.

"Ym mis Mawrth, fe wnaethon ni gyhoeddi y byddai eitemau ar gyfer y mislif ar gael i bob menyw yn ysbytai Cymru - mae ond yn deg gwneud yr un fath yn ein hysgolion.

"Mae'n hanfodol sicrhau bod digon o eitemau ar gyfer y mislif, yn ogystal â chyfleusterau da, ar gael i bob merch er mwyn iddyn nhw reoli eu mislif â hyder a goresgyn unrhyw rwystrau diangen i'w haddysg."

Mae'r £2.3 miliwn a gyhoeddwyd ddydd Llun yn ychwanegol at yr £1.1 miliwn a gafodd ei ymrwymo llynedd - roedd cyllid blaenorol yn cynnwys £440,000 ar gyfer awdurdodau lleol hyd at 2020 i ddarparu eitemau ar gyfer mislif drwy ysgolion, banciau bwyd a llochesi i'r rhai a fyddai fel arall yn cael trafferth talu amdanynt, a £700,000 i wella cyfleusterau toiledau mewn ysgolion.