Hen linell bell nad yw'n bod

  • Cyhoeddwyd

O'r holl etholiadau yr wyf wedi eu trin a'u trafod ar hyn y blynyddoedd go brin fod un ohonyn nhw mor rhyfedd â'r ornest bresennol ar gyfer seddi yn Senedd Ewrop.

Mae'r gwn wedi ei danio i gychwyn y ras, mae'r athletwyr mas ar y trac yn rhedeg a'u gwynt yn eu dyrnau heb unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd 'na linell derfyn i'r ras.

A'r etholiad yn cymryd lle yng nghanol argyfwng gwleidyddol a chyfansoddiadol mae darogan beth allai ddigwydd yn beth peryg i wneud ond rwyf yn fodlon cynnig un broffwydoliaeth gadarn sef hon.

Os ydy'r etholiadau'n cael eu cynnal, yna fe fydd siâr y Ceidwadwyr o'r bleidlais yn is nac mewn unrhyw etholiad Prydain gyfan ers 1834. Mae'r rhesymeg yn syml. Yr unig reswm dros gefnogi'r Torïaid fyddai Bregsit llwyddiannus a phe bai na Bregsit llwyddiannus fe fyddai'r etholiad yn cael ei ganslo.

Gallwn ddisgwyl felly i gefnogwyr gadael yr UE chwilio am gartref newydd i'w pleidleisiau. Ymddengys o'r arolygon barn mai at Blaid Bregsit Nigel Farage y bydd y rhan fwyaf yn troi ond fe fydd peth o'r bleidlais honno'n cael ei ddisbyddu i Ukip ac eraill.

Mae cefnogwyr aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu fwy o benbleth. Fe fydd ceisio sicrhau nad Plaid Bregsit sydd ar y brig yn darbwyllo rhai i gefnogi Llafur ond i eraill mae agwedd Sioni bob ochor y blaid honno yn wrthun.

Yng Nghymru a'r Alban y pleidiau cenedlaethol sy'n debyg o fanteisio o bleidleisiau'r rheiny sydd wedi cael llond bol ar aneglurder y polisi Llafur. Yn Lloegr mae'r sefyllfa'n fwy cymhleth gyda thair plaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a Change UK yn weddol o gyfartal yn y polau.

Y Blaid Werdd yw'r cartref amlwg i fewnwyr y chwith ac efallai y bydd Change UK yn apelio at y nifer llawer llai sylweddol o fewnwyr sydd ar yr asgell dde.

Ond peidiwch â diystyru'r Democratiaid Rhyddfrydol chwaith. Gyda'r ddwy blaid fawr yn amhoblogaidd gallai'r blaid felen wneud yn arbennig o dda yn etholiadau lleol Lloegr wythnos nesaf gan fagu momentwm gwerthfawr cyn yr ornest Ewropeaidd.

Fe fydd gwrthwynebwyr Bregsit yn gobeithio y bydd y sefyllfa'n fwy eglur wrth i ddiwrnod mawr y cyfri ddod yn agosach ond does 'na ddim sicrwydd o gwbl y bydd hynny'n digwydd.