Adran Dau: Casnewydd 1-0 Lincoln City

  • Cyhoeddwyd
Newport players celebrate Scot Bennett's goalFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae gobeithion Casnewydd o gyrraedd y gemau ail-gyfle yn parhau wedi iddyn nhw drechu'r pencampwyr, Lincoln City yn Rodney Parade.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi saith munud yn unig wrth i groesiad Padraig Amond ganfod Scot Bennett yn y cwrt cosbi.

Fe hedfanodd ergyd Bennett heibio'r golwr ac i gefn y rhwyd oddi ar y trawst.

Parhau i ymosod gwnaeth Casnewydd wrth i Mickey Demetriou a Ben Kennedy ddod yn agos i ddyblu'r fantais cyn hanner amser.

Bu bron i gic rydd Robbie Willmot sicrhau'r tri phwynt i'r Alltudion yn hwyr yn yr ail hanner, ond fe lwyddodd tîm Mike Flynn i ddal 'mlaen i'r fantais mewn amgylchiadau anodd.

Bydd Casnewydd yn codi i safleoedd y gemau ail-gyfle os ydyn nhw'n llwyddo i drechu Oldham Athletic nos Fawrth.