Y Trên sy'n Sefyll

  • Cyhoeddwyd

Pe na bai Bregsit yn sugno'r holl oleuni o'r byd gwleidyddol fel rhyw dwll du mileinig mae'n debyg y byddai trafnidiaeth yn uchel ar yr agenda gwleidyddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Efallai'n wir bod Llywodraeth Cymru'n falch mai Ewrop sy'n denu'r sylw wrth i'r penderfyniad ynghylch yr M4 newydd agosau a'r feirniadaeth o Drafnidiaeth Cymru, y corff hyd braich newydd sy'n rheoli ein trenau ddwyshau.

O safbwynt yr M4 fe fydd penderfynniad y naill ffordd neu'r llall yn sicr o ddenu ymateb chwyrn ac, o bosib, arolwg barnwrol. Yr angen i sicrhau fod pob dim wedi ei wneud yn unol â'r gyfraith oedd esboniad Mark Drakeford am yr oedi diweddaraf ynghylch y penderfynniad. Fe gawn i wybod ym mis Mehefin, mae'n debyg, ar ôl Etholiadau Ewrop. Fe wnâi adael i chi benderfynu p'un ai oedd y Prif Weinidog yn cynnig rheswm neu esgus yn y siambr ond, a dweud y lleiaf mae'r amseru yn gyfleus i Lafur.

Mae'n anodd credu y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi golau gwyrdd i'r draffordd newydd wythnosau'n unig ar ôl cyhoeddi 'argyfwng hinsawdd' ond mae pethau rhyfeddach wedi digwydd.

Os ydy'r cynllun yn cael ei ganslo, gallwn ddisgwyl addewid y bydd talp o'r arian a arbedwyd yn cael ei wario ar wella trafnidiaeth gyhoeddus ond mae'r corff sy'n gyfrifol am wneud hynny, Trafnidiaeth Cymru, yn ymddangos braidd yn simsan ar hyn o bryd.

Mewn adroddiad beirniadol gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad a gyhoeddwyd heddiw galwodd yr aelodau ar TrC i fod yn llawer mwy gweithredol wrth ymgysylltu â'i gwsmeriaid ar draws y wlad ac ymateb i'w safbwyntiau.

Pe bai TrC yn gwneud hynny'r foment hon, mae'n debyg y byddai'r corff yn derbyn llond clust o gwynion.

Nawr, nid TrC sy'n llwyr gyfrifol am broblem fwyaf ein rheilffordd ni sef prinder stoc. San Steffan wnaeth benderfynu bod pob cerbyd a thrên yn gorfod fod yn hygyrch i bawb erbyn diwedd eleni, targed sy'n golygu bod llawer o'r stoc yn gaeth mewn gweithdai ar hyn o bryd.

Ond TrC a'u contractwyr Keolis Amey wnaeth addo cael gwared ar y Pacers bach dieflig yna erbyn diwedd y flwydd a'u haddewid nhw hefyd oedd y byddai 'na soced drydanol wrth ymyl pob sedd erbyn dechrau 2020.

I fod yn deg mae 'na drenau newydd wedi ei harchebu ond fe fydd hi'n rhai blynyddoedd cyn i'r rhan fwyaf o rheiny ein cyrraedd.

Yn y cyfamser gallwn ddisgwyl gweld pethau rhyfedd iawn ar ein traciau, injans disel yn llusgo cerbydau hanner canrif oed rhwng Rhymni a Chaerdydd ac InterCity 125s yn bomio ar hyd arfordir y gogledd.

"What a way to run a railway" fel maen nhw'n dweud.