Fferm gymunedol yng Nghwmbrân yn wynebu toriadau £20,000

  • Cyhoeddwyd
Anifeiliad ar y ffermFfynhonnell y llun, Andy Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Torfaen sy'n gyfrifol am redeg y safle sy'n agored i'r cyhoedd am 11 mis o'r flwyddyn

Mae angen gweledigaeth hir dymor er mwyn sicrhau dyfodol fferm gymunedol sydd mewn perygl o golli £20,000 o'i chyllideb, yn ôl aelodau o Gyngor Sir Torfaen.

Mae'n bosib y bydd rhaid i fferm Green Meadow yng Nghwmbrân addasu ei horiau agor, strwythur staffio a'r ddarpariaeth arlwyo yn sgil y toriadau.

Yn ogystal, fe all hyd at 50 erw o dir gael ei werthu er mwyn codi arian.

Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol, Jason O'Connell ei bod hi'n "aneglur" os yw'r safle'n cael ei ddatblygu fel adnodd addysgol, atyniad twristiaeth neu fel fferm weithredol.

"Tan ein bod ni'n penderfynu beth yn union ni eisiau'r fferm i fod, rydyn ni'n brwydro yn erbyn y llif braidd wrth geisio cadw pawb yn hapus," meddai.

Ffynhonnell y llun, Andy Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i'r awdurdod gydweithio â'r gymuned leol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, yn y cynghorydd Fay Jones

Mae'r fferm wedi bod yn weithredol ers 250 o flynyddoedd, a chafodd ei hachub yn yr 1980au wedi pryderon y byddai'n cael ei cholli o ganlyniad i waith datblygu.

Y cyngor sy'n gyfrifol am gynnal y safle - sy'n agored i'r cyhoedd am 11 mis o'r flwyddyn.

Mae'r safle yn cynnal digwyddiadau amrywiol o dripiau ysgol i wyliau bwyd.

Wrth i Gyngor Torfaen anelu at wneud arbedion o £3.5m, mae'r fferm bellach yn wynebu toriadau sylweddol i'w chyllideb.

'Angen cydweithio'

Dywedodd y cynghorydd Llafur, Fay Jones bod angen i'r awdurdod gydweithio â'r gymuned a'r rhai sy'n ymwneud â'r fferm wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n adnodd arbennig a dwi'n meddwl ei bod hi'n ofnadwy bod rhaid i ni fynd lawr y trywydd hwn o dynnu arian yn ôl," meddai.

Mae'r cynghorydd annibynnol, Dave Thomas wedi cyhuddo'r cyngor o adael i gyflwr y fferm ddirywio, gan gwestiynu os yw'r awdurdod wir eisiau cadw eu gafael ar y safle.

Mae arweinydd y cyngor, Anthony Hunt wedi annog pobl i barhau i ymweld â'r fferm, gan rybuddio bod costau yn codi yn flynyddol.

Yn ôl y cynghorydd Peter Jones, mae'r toriadau arfaethedig yn ymwneud â lleihau rywfaint o ddarpariaeth y fferm, yn hytrach na pheryglu dyfodol tymor hir y fferm.