Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2019

  • Cyhoeddwyd
Urdd

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi enwau'r pedwar person fydd yn cael eu hanrhydeddu eleni am eu cyfraniad arbennig i'r mudiad.

Mae'r mudiad yn cydnabod cyfraniad y llywyddion anrhydeddus yn Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol.

Yn Eisteddfod Caerdydd a'r Fro eleni, y pedwar sy'n cael eu gwobrwyo ydy Emyr Edwards, Alun Guy, Gaynor Jones a Gwilym Roberts.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, ei bod yn "fraint a phleser" cydnabod ymroddiad y "gwir gymwynaswyr i'r mudiad".

Llywyddion Anrhydeddus 2019:

  • Y cyfarwyddwr a dramodydd Emyr Edwards;

  • Y cerddor ac arweinydd Alun Guy;

  • Un sy'n ymwneud â'r mudiad ers degawdau fel nyrs, Gaynor Jones;

  • Ffigwr amlwg gyda'r Urdd yn y brifddinas, Gwilym Roberts.

Bydd y pedwar yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan yr ŵyl ar y dydd Llun.

Dywedodd Ms Lewis: "I blant a phobl ifanc Caerdydd a'r Fro a thu hwnt, yn Gymry ac yn ddysgwyr, y pedwar yma fu wynebau'r Urdd i bob pwrpas am ddegawdau.

"Maen nhw yn wir gymwynaswyr i'r mudiad ac mae hi'n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr ŵyl eleni."

Mae Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin.