Cynnal Eisteddfod yr Urdd 2019 ym Mae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Canolfan y Mileniwm
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ŵyl yn defnyddio cyfleusterau Canolfan y Mileniwm yn ogystal â gwersyll yr Urdd yn y bae

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd yn 2019.

Bydd y mudiad yn ymweld â'r lleoliad flwyddyn ar ôl i'r Eisteddfod Genedlaethol wneud yr un peth.

Y ddau dro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal yn y brifddinas oedd yn 2005 a 2009.

Bydd yr ŵyl unwaith eto'n defnyddio cyfleusterau Canolfan y Mileniwm yn ogystal â gwersyll yr Urdd yno.

'Unwaith yn oes pob plentyn'

Yn sgwrsio ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Iau dywedodd Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn bod gan y mudiad yr hawl i gynnal Eisteddfod yn y bae unwaith pob pedair blynedd fel rhan o'u cytundeb gyda Chanolfan y Mileniwm, ond eu bod wedi penderfynu gohirio mynd 'nôl yno nes 2019 i barhau i fynd a'r ŵyl ar daith.

"Yr hyn 'da ni wedi ei benderfynu ydi ein bod ni'n mynd i'r bae o leiaf unwaith yn oes pob plentyn fel eu bod nhw'n cael y profiad i geisio cystadlu neu pherfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm," meddai.

Wrth ddechrau ar y gwaith o gynllunio'r ŵyl yn 2019, doedden nhw ddim yn ymwybodol bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn bwriadu ymweld â'r un safle flwyddyn ynghynt, meddai.

Ychwanegodd, fel digwyddodd yn 2015 a 2009, ni fydd pwyllgor gwaith yn cael ei sefydlu, ac yn hytrach, bydd y mudiad yn cydweithio gydag ysgolion Caerdydd a'r Fro.