Adran Dau: Morecambe 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd wedi crafu eu ffordd i gemau'r ail-gyfle wedi gêm llawn tensiwn oddi cartref yn erbyn Morecambe.
Roedd hi'n hanner cyntaf ddigon nerfus i'r Alltudion.
Er iddynt gael sawl cyfle yn gynnar yn y gêm, prin eu bod wedi bygwth Morecambe.
Yna ar ôl ugain munud, dyma gyn-chwaraewr Casnewydd Aaron Collins yn plannu'r bêl yn rhwyd yr Alltudion gydag ergyd troed chwith gan roi'r tîm cartref ar y blaen.
Erbyn diwedd yr hanner cyntaf roedd Casnewydd wedi adfer eu hyder ac yn ymosod yn effeithiol iawn.
Cafwyd ymgais ar ôl ymgais ar y gôl gan Padraig Amond a Josh Sheenan ond fe arbedwyd pob un gan adael y sgôr yn un i ddim ar hanner amser.
Dechreuodd Casnewydd yr ail hanner yn benderfynol iawn gyda pheniad Amond yn cael ei arbed ar 50 munud, ond roedd Morecambe yn beryglus iawn yn gwrth-ymosod o hyd ac yr oeddynt yn darganfod bylchau yn amddiffyn Casnewydd.
Cnoi ewinedd
Roedd hi'n gêm llawn cynnwrf a thensiwn drwy'r ail hanner a'r chwarae yn symud o un cwrt cosbi i'r llall.
Ond roedd Morecambe yn ymddangos yn fwy brwdfrydig na Chasnewydd er nad oedd ganddynt ddim i chwarae amdano heblaw eu balchder gan eu bod yn y deunawfed safle.
Gallai Aaron Collins fod wedi rhoi'r tîm cartref ddwy neu dair gôl ar y blaen ond roedd perfformiad gôl-geidwad Casnewydd Joe Day yn hynod anodd ei guro.
Yna gyda thair munud yn unig ar ôl cafodd Casnewydd dafliad ryw ychydig lathenni o'r gornel.
Daeth y bêl i'r cwrt cosbi ac yna at draed Jamille Matt drwy gymorth Adebayo Azeez a gydag ergyd droed dde plannodd y bêl yng nghornel chwith rhwyd Morecambe.
Roedd y rhyddhad yn amlwg ymhlith cefnogwyr Casnewydd gan fod Caerwysg, Colchester a Stevenage wedi bod yn bygwth lle Casnewydd yn y seithfed safle.
Roedd y pedair munud o amser ychwanegol yn hunllef i gefnogwyr Casnewydd gan fod modd i Gaerwysg gipio'r seithfed lle os byddent yn curo Forest Green.
Daeth y gêm yn Morecambe i ben gyda dwy funud ychwanegol i'w chwarae yn Forest Green.
Roedd rhaid i'r Alltudion gnoi eu hewinedd am ychydig cyn clywed y newydd fod gêm Caerwysg wedi dod i ben yn ddi-sgôr.
Felly mae Casnewydd wedi crafu eu ffordd i'r gemau ail gyfle nos Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2018