Y Sedd Olaf

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi wedi derbyn unrhyw daflenni ynghylch Etholiad Ewrop eto? Na, na finnau chwaith. Mae ambell un o'n cydnabod wedi derbyn taflen gan blaid Bregsit ond dim byd gan unrhyw un arall.

Mae'n beth rhyfedd ar y naw o gofio bod yr ugain y cant o'r etholwyr sy'n pleidleisio trwy'r post eisoes wedi derbyn eu papurau pleidleisio.

Pam y diffyg ymgyrchu, felly? Wel mae rhan o'r rheswm yn deillio o'r ffaith mai dim ond pedair sedd sy gan Gymru yn senedd Ewrop. Mae ennill sedd yng Nghymru felly llawer iawn anoddach nag yw hi i ennill yn y rhanbarthau Seisnig mawr fel y Gogledd Orllewin, y De Ddwyrain a Llundain. Dyw e hi ddim yn syndod felly, mewn cyfnod lle mae coffrau'r pleidiau'n wag, fod y pleidiau Prydain gyfan yn buddsoddi eu harian y tu hwnt i Glawdd Offa.

Beth sy'n debyg o ddigwydd yma yng Nghymru felly? Er mwyn sicrhau sedd Ewropeaidd yng Nghymru mae'n rhaid i blaid ennill oddeutu 15-16% o'r bleidlais. Mae'n anodd credu na fydd Plaid Bregsit, Llafur a Phlaid Cymru yn cyrraedd y trothwy hwnnw. Dyna chi dair sedd wedi mynd felly, bron cyn cychwyn ond beth am yr un dyn bach ar ôl?

Mae'n ymddangos i mi bod UKIP allan o'r ras am sedd a bod yr un peth yn wir am y Democratiaid Rhyddfrydol, Newid DU a'r Blaid Werdd os nad yw un o'r pleidiau hynny yn llwyddo i lwyr oddiweddid y ddwy arall.

Mwy na thebyg felly brwydr rhwng y Ceidwadwyr a phwy bynnag sydd wedi dod yn gyntaf fydd yr ornest am y sedd olaf ac mae mathemateg D'Hondt yn ddigon syml. Os ydy pwy bynnag sydd ar y brig wedi ennill mwy na dwbl y bleidlais Geidwadol y blaid honno fydd yn derbyn y sedd bonws.

Ond mae 'na un peth arall sydd werth gwylio. Dim ond un etholiad cenedlaethol y mae Llafur wedi ei golli yng Nghymru ers 1922, sef etholiad Ewrop yn 2009, er ei bod wedi dod yn agos iawn at wneud hynny eto y tro diwethaf y cynhaliwyd etholiad Ewropeaidd yn 2014.

UKIP oedd y bygythiad bryd hynny. Plaid Bregsit ac efallai, Plaid Cymru sy'n bygwth y tro hwn. Fe fyddai ddisgyn i'r ail safle am dim ond yr eil dro mewn bron i ganrif yn gychwyn ofnadwy i Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru. Tybed a fyddai Carwyn Jones wedi amseru ei ymadawiad yn wahanol pe bai e'n gwybod y byddai'r etholiadau yma'n cael eu cynnal wedi cyfan?

Ôl nodyn; yn y fersiwn gwreiddiol o'r blog hwn roeddwn i wedi anghofio am fuddugoliaeth y Ceidwadwyr yn 2009. Diolch i bawb am fy nghywiro!