Brut y Tywysogion
- Cyhoeddwyd
Dydw i ddim yn siŵr iawn beth oedd oeddwn i'n disgwyl mewn gwirionedd wrth i'r wladwriaeth Gymreig ail-ymddangos ugain mlynedd yn ôl. Yn sicr doeddwn i ddim yn disgwyl i'w rhagflaenydd ailymddangos ar ôl wyth canrif yn cysgu mewn rhyw ogof yn rhywle.
Dydw i ddim yn sicr ydy'r fath beth yn bodoli ond mae'n ymddangos bod rhywbeth yn ein cymeriad fel cenedl wedi esgor ar rai o'r un nodweddion a'r rhai oedd yn poeni'r Tywysogion.
Mae cenfigen y berfeddwlad tuag at Forgannwg cyn gryfed ag erioed a'r cynghreirio a dat-gynghreirio oedd yn nodi llysoedd y ddau Lywelyn yr un mor amlwg heddiw. Mae Mark Reckles wedi newid ochor bron cymaint o weithiau a Dafydd ap Griffith erbyn hyn ac mae'r senedd weithiau yn ymddangos fe rhyw fath o galeidescop gwleidyddol gyda'r darnau a'r lliwiau'n newid yn gyson.
Os am brawf o hynny mae aelodau annibynnol wedi bod yn rhan o'r Cynulliad bron o'r dechrau'n deg er taw dim ond un ymgeisydd annibynnol, John Marek sydd wedi cael ei ethol o dan y label yna.
Cafwyd ambell i feicro-blaid hefyd. Roedd 'Forward Wales' (Marek eto) yn un o'r rheiny, y Brexit Party yw'r diweddara.
Nawr, mae 'na aelodau cynulliad ar feinciau Llafur a Phlaid Cymru sy'n gobeithio newid y rheolau sefydlog er mwyn rhwystro'r grŵp newydd rhag cael ei gydnabod yn swyddogol. Hanfod eu dadl, dolen allanol yw na ddylai plaid sydd erioed wedi derbyn un bleidlais mewn etholiad cynulliad dderbyn arian o goffrau'r cyhoedd.
Mae 'na sylwedd i'r ddadl honno ac hefyd i ddadleuon Ifan Morgan Jones yn ei ddeiseb, dolen allanol ar wefan y Cynulliad ond mae gen i un gair bach o bwyll.
Gallasai newid y rheolau sefydlog nawr fod yn fêl ar fysedd plaid sy'n seilio'i hapêl ar y syniad bod 'na 'ddosbarth gwleidyddol' sy'n cynllwynio i wyrdroi 'ewyllys y bobol'.
Cynlluniau mwy hirdymor yw rhai Ifan ac, oherwydd hynny, rwy'n meddwl ei bod yn fwy tebygol o lwyddo. Gallasai newid y rheolau ar ganol y gêm ymddangos fel dial. Fe fyddai newid y gyfundrefn ar gyfer y Cynulliad nesaf yn gwneud fwy o synnwyr yn wleidyddol.