Pen Pella'r Cwm
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi eisiau gweld darlun o anghyfartaledd yng Nghymru does dim gwell ffordd na threulio awr yn teithio ar hyd rheilffordd Rhymni. Mae'ch taith yn cychwyn yn orsaf ganolog Caerdydd gyda swyddfeydd newydd sbon y Sgwâr Ganolog i'r gogledd ohoni a chynlluniau ar gyfer 2.5 miliwn o droedfeddi sgwâr o swyddfeydd a fflatiau ar fin cychwyn ar yr ochr ddeheuol.
Ymlaen â ni thrwy stiwdantia Cathays ac yna maestrefi cefnog y Mynydd Bychan a Llanisien cyn diflannu i dwnnel Caerffili. Nawr fe fyddai'n gyfleus i ddweud eich bod yn ail-ymddangos o'r twnnel i fyd gwahanol ond byddai hynny ddim yn wir.
Ydy, mae'r acen wedi newid ond, yn economaidd, rhan o Gaerdydd yw Caerffili bellach gyda stadau enfawr i gymudwyr yn amgylchynu'r hen dre farchnad.
Ymlaen â ni trwy Lanbradach ac Ystrad Mynach lle mae pencadlys Cyngor Caerffili ac Ysbyty Ystrad Fawr yn cyflogi miloedd. Ychydig yn bellach i'r gogledd ry'n ni'n croesi'r hyn y mae adeiladwyr yn galw'r 'snow-line'. I'r de o hwnnw mae codi tai yn fusnes proffidiol. I'r gogledd ohoni does dim galw am dai, neu felly maen nhw'n dweud.
Hengoed a Bargod sy nesaf ac ym Margod y mae'r rhan fwyaf o drenau o Gaerdydd yn troi yn ôl am y brifddinas. Ond unwaith bob awr mae 'na drên sy'n mentro'n bellach, lan trwy bentrefi bychan fel Brithdir a Thir-Phil nes cyrraedd pen y daith yn Rhymni.
Yna, wrth ymyl y lein cewch weld un o'r golygfeydd mwyaf rhyfeddol Cymru, safle tir brown anferth sydd â bron dim yn tyfu yno er bod y gwaith haearn oedd arfer sefyll yma wedi cau mor bell yn ôl a'r 1890au. Does bron dim ar y safle ac eithrio ambell i warws a'r hyn y gallaf ond ddisgrifio fel mynwent i beiriannau codi baw.
Peiriannau codi baw, sylwer nid Jacs Codi Baw oherwydd nid JCBs ond Hymacs yw'r rhain, hen beiriannau cwmni Powell Dyffrun oedd yn cael eu cynhyrchu yma ers talwm. Fe gaeodd y gwaith yn ôl yn yr wythdegau, tua'r un pryd a'r pyllau.
Ers hynny, mae Rhymni wedi bod mewn trwmgwsg economaidd gyda'r dref yn raddol troi'n bentref wrth i'r banciau, y siopau a'r capeli gau. Mi ydych chi ugain milltir a hanner canrif i ffwrdd o Gaerdydd a rhag ofn eich bod yn credu fy mod yn gor-ddweud mae 'na bobol yn Rhymni sy'n mynd o gwmpas eu busnes mewn ceffyl a thrap.
Ond gallasai pethau fod ar fin newid. Problem Rhymni yw ei bod hi'n teimlo'n bell o bobman ac yn anodd ei chyrraedd. Fe fydd pethau'n wahanol iawn ymhen ychydig flynyddoedd. Mae Ffordd Blaenau'r Cymoedd sydd ar gyrion gogleddol y pentref yn cael ei droi'n ffordd ddeuol ac fel rhan o'r cynlluniau Metro fe fydd y trenau o Gaerdydd yn cyrraedd a gadael bob chwarter awr.
Beth felly y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud i fanteisio ar y cysylltedd newydd? Gofynnais y cwestiwn yna i Lee Waters y dirprwy weinidog economi'r dydd o'r blaen.
Ei ymateb oedd fy nghyfeirio at "Ein Cymoedd Ein Dyfodol", dogfen polisi a gyhoeddwyd y llynedd. Hanfod y cynllun hwnnw yw sefydlu saith 'hwb strategol' lle bydd arian cyhoeddus yn cael ei buddsoddi yn y gobaith o ddenu buddsoddiadau preifat.
Mae un o'r hybiau strategol yna yng Nghwm Rhymni. Yn lle? Yng Nghaerffili ac Ystrad Mynach wrth gwrs. I'r pant y rhed y blydi dŵr.
Mae'n haws wrth gwrs i adeiladu llwyddiant ar lwyddiant ond mae'n anodd osgoi'r casgliad nad yw rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y cymoedd mewn peryg o gael eu hanghofio a'u hanwybyddu a hynny ar adeg pan mae angen uchelgais a dychymyg i'w tynnu allan o gors amddifadedd.
Dyma i chi awgrym felly. Ar hyn o bryd mae cwmni CAF yn adeiladu fflyd o drenau newydd sbon i Drafnidiaeth Cymru yn ei ffatri yng Nghasnewydd. Y trenau hynny fydd yn cyflawni bron y cyfan o wasanaeth trên Cymru y tu allan i system Rhondda Cynon Taf.
Bwriedir cynnal a chadw'r trenau yn nepo enfawr Canton, pum munud o ganol Caerdydd. Yn lle gwneud hynny beth am symud yr Hymacs yna mas o'r ffordd a gwneud y gwaith yn Rhymni? Mae gan Lywodraeth Cymru'r hawl i fynnu hynny. Pam nad yw hi'n gwneud?
Fel y dywedais i, mae angen dychymyg ac uchelgais os am sicrhau nad yw Rhymni a llefydd cyffelyb yn aros yn rhan o'r hyn y galwodd Idris Davies, un o feibion enwocaf y lle, yn 'Gwalia Deserta'.